Llywodraeth Cymru'n oedi cynllun Cartrefi i Wcráin dros dro
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynllun Cartrefi i Wcráin yn cael ei oedi i ymgeiswyr newydd dros dro.
Bwriad y cynllun yw galluogi teuluoedd neu unigolion yng Nghymru i gynnig noddfa i ffoaduriaid sydd wedi ffoi o'r ymladd yn Wcráin.
Daeth y cynllun i rym ym mis Mawrth ac mae'r llywodraeth bellach wedi oedi unrhyw geisiadau gan noddwyr newydd yn ystod mis Mehefin er mwyn "sicrhau bod pobl sy’n cyrraedd, a’r rhai sydd eisoes yma yng Nghymru, yn parhau i gael lefel ragorol o ofal a chefnogaeth."
Mewn datganiad, dywedodd y llywodraeth: "Bydd y saib dros dro hwn yn dechrau o ddydd Gwener 10 Mehefin a bydd Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn defnyddio’r amser hwn i ganolbwyntio ar sefydlu trefniadau ar gyfer llety cam nesaf a darparu gwasanaethau cofleidiol ehangach ledled Cymru."
Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “O ddechrau’r gwrthdaro yn Wcráin, mae ein neges ni wedi bod yn glir – mae Cymru’n Genedl Noddfa ac yn barod i groesawu pobl sy’n ffoi rhag rhyfel.
“Wedi’i lansio ddiwedd mis Mawrth, rydyn ni wedi cael ymateb cadarnhaol iawn i’n llwybr Uwch-Noddwyr ar gyfer Cartrefi i Wcráin. Rydyn ni wedi gweld fisas yn cael eu rhoi ymhell y tu hwnt i'n hymrwymiad cychwynnol i groesawu 1000 o bobl.
“Bydd y saib dros dro hwn yn gyfle i ni fireinio’r trefniadau rydyn ni wedi’u rhoi ar waith i gefnogi pobl wrth iddyn nhw gyrraedd a sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig awdurdodau lleol, yn gallu parhau i ddarparu cefnogaeth o safon uchel."
Ychwanegodd y gweinidog na fydd y saib "yn effeithio ar unrhyw geisiadau cyfredol a bydd pobl yn parhau i gyrraedd Cymru wrth i fisas gael eu dyfarnu ac wrth i drefniadau teithio gael eu cadarnhau."
'Tro pedol siomedig'
Wrth ymateb i'r newyddion am yr oedi, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod y cam yn un "siomedig".
"Pa bynnag sbin sydd yn cael ei roi ar y newyddion, mae hyn yn fethiant. Cafodd y cynllun ei gyhoeddi i lawer o sylw ym mis Ebrill a dim ond wyth wythnos mae wedi ei gymryd i Weinidogion Llafur wneud tro pedol.
"Mae ffoaduriaid o Wcráin angen cefnogaeth, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig am weld y cynllun yn ôl yn gweithredu eto."