Syr David Attenborough i dderbyn urdd marchog arall

David Attenborough
Bydd Syr David Attenborough yn derbyn cydnabyddiaeth bellach am ei gyfraniad i fyd darlledu teledu a chadwraeth, wrth iddo dderbyn ei ail anrhydedd o urdd marchog.
Cafodd y darlledwr 96 oed ei anrhydeddu fel Syr am y tro cyntaf yn 1985.
Ond bellach fe fydd y darlledwr a’r naturiaethwr poblogaidd yn derbyn anrhydedd pellach o Knight Grand Cross o'r Urdd Sant Michael a Sant Siôr.
Mae disgwyl i'r Tywysog Siarl, sydd hefyd yn ymgyrchydd brwd dros gadwraeth natur, i wobrwyo Syr David mewn seremoni yng Nghastell Windsor ddydd Mercher.
Darllenwch fwy yma.