Tridiau o streiciau ar y rheilffyrdd ddiwedd Mehefin

Bydd gweithwyr rheilffordd yn cynnal streiciau am dridiau ddiwedd Mehefin, a allai achosi trafferthion eang am wythnos gyfan.
Mae Undeb Yr RMT wedi dweud wrth ei aelodau i baratoi i streicio ar Fehefin 21, 23 a 25 Mehefin,
Cafodd pleidlais ei chynnal ymhlith y 40,000 o aelodau fis diwethaf, a phleidleisodd y mwyafrif llethol o blaid streicio.
Mae'r streiciau sydd wedi eu trefnu ar adegau prysura'r wythnos, ac ar yr un adeg â dau is-etholiad yn Lloegr a gwyliau cerddorol fel Glastonbury.
Mae'r gweithwyr yn anfodlon fod cynlluniau diswyddo ar y gweill.
Dyw Network Rail na chwmniau trenau ddim wedi cyhoeddi y bydd yna ddiswyddiadau gorfodol. Ond maen nhw o dan bwysau i wneud arbedion ariannol blynyddol sydd rhwng £1-2 biliwn.
Mae nifer y teithwyr ar drenau yn dal i fod gryn dipyn yn is na'r cyfnod cyn Covid.
Rhagor o fanylion yma