Newyddion S4C

Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: Cartref nesaf Aaron Ramsey a Gareth Bale?

12/06/2022

Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: Cartref nesaf Aaron Ramsey a Gareth Bale?

Ai Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd fydd cartref nesaf Aaron Ramsey a Gareth Bale?

Gyda Bale eisioes wedi cadarnhau ei fod yn gadael clwb Real Madrid a dyfodol Aaron Ramsey gyda Rangers yn parhau yn ansicr, mae sibrydion cynyddol y gall y ddau ohonyn nhw chwarae yn y brif ddinas y tymor nesaf. 

Ymunodd Ramsey â Chlwb Pêl-droed Rangers ar gyfer tymor 2021/22 ar fenthyg o Juventus, ac er nad oes unrhyw beth wedi ei ddatgan yn swyddogol eto, mae hi'n anhebygol iawn y bydd Ramsey yn dychwelyd i'r Eidal i chwarae. 

Mae Ramsey eisioes wedi chwarae i Gaerdydd cyn iddo symud i Arsenal yn 2008 yn ogystal â dychwelyd ar fenthyg yno yn 2011.

Yn ôl Gwennan Harries, sylwebydd a cyn chwaraewr pêl-droed, byddai gweld y ddau yn symud i Gaerdydd yn “grêt” i Gaerdydd ac i Gymru.

“Bysa Gaerdydd yn hapus iawn i gael Ramsey yn nôl a chael chwaraewr fel Bale sydd o’r ddinas, so fysa fo’n golygu lot i gefnogwyr Caerdydd.

“Ydy’n nhw mynd i gael y ddau yna? Dwi’n ansicr ond bydda fo’n hanesyddol i’r clwb.

“Yn bersonol dwi’n meddwl bod nhw rhy dda i chwarae yn y bencampwriaeth ond mae angen iddyn nhw fod mewn clwb lle maen nhw’n hapus a ble ma’n nhw’n teimlo bod pobl yn caru nhw hefyd."

Ychwanegodd mai’r peth pwysicaf yw bod y ddau yn cael cyfleoedd i chwarae yn gyson.

“Mae yn anodd gwybod beth fydd yn digwydd nesaf ac mae’r ddau yn dda iawn am gadw hynny yw hunain hefyd.

“Ond y peth pwysicaf yw bod nhw’n mynd i rywle lle maen nhw’n hapus ac yn cael cyfle i chwarae yn gyson. Mae Rob Page wedi dweud bod hin bwysig bod y chwaraewyr yn barod at Gwpan y Byd.

“Felly mae yn bwysig bod nhw’n ffeindio clybiau sydd yn dda iddyn nhw ac yn siwtio nhw. Ble mae hwnna? Mae’n anodd gwybod."

Er mai dim ond sibrydion ydyn nhw ar hyn o bryd, bydd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn awyddus iawn i arwyddo'r ddau gawr er mwyn chwarae yn y stadiwm sydd bellach mor gyfarwydd iddyn nhw gyda'r tîm cenedlaethol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.