Gorfoledd i Gymru wrth gyrraedd Cwpan y Byd
Mae Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd yn dilyn buddugoliaeth agos yn erbyn Wcráin o 1-0 yng Nghaerdydd.
Dechreuodd Cymru'r gêm gyda thîm ymosodol gyda Gareth Bale yn arwain y blaen wrth i'r glaw ddisgyn.
Wcráin gafodd y gorau o’r meddiant yn y munudau agoriadol ac fe ildiodd Joe Allen gic rydd gan dderbyn cerdyn melyn am hynny.
Fe gymrodd Wcráin y gic yn gyflym gan rwydo’r bêl ond nid oedd y dyfarnwr yn barod er mawr ryddhad i holl gefnogwyr Cymru.
Yna cyfle i Gymru ymosod ar gôl Wcráin ond er i Gymru ennill cic gornel cynnar ni chafwyd llwyddiant.
Bu’n rhaid i’r golwr Wayne Hennessey wneud arbediadau i achub Cymru wrth i Wcráin ymosod yn gelfydd.
Roedd Wcráin yn cadw’r meddiant yn well na Chymru yn y cyfnod cynnar.
Bu’n rhaid i Hennessey arbed Cymru eto ar ôl 29 munud ar ôl i Allen golli’r meddiant wrth ymyl y cwrt cosbi wrth i Wcráin gael nifer o gyfleoedd.
Enillodd Daniel James gic rydd i Gymru tu allan i gwrt cosbi Wcráin ar ôl 33 munud.
Ymlaen camodd Gareth Bale ac fe aeth y bêl i gefn y rhwyd o gyffyrddiad gan un o chwaraewyr Wcráin. 1-0 i Gymru.
Roedd yn rhaid i Hennessey achub Cymru eto ar ôl 39 munud wrth i Allen golli’r meddiant unwaith yn rhagor yn y cwrt cosbi.
Roedd Allen yn ei chanol hi eto wrth i'r dyfarnwr wirio am gic o'r smotyn i Wcráin ond parhau i chwarae oedd y penderfyniad.
Roedd golwr Cymru llawer yn fwy prysur na'i wrthwynebydd er bod y tîm cartref ar y blaen ac roedd y dorf yn falch i glywed y chwiban am hanner amser.
Daeth cyfle euraid i Gymru ar ôl tair munud wrth i Nico Williams wrth ymosod gydag Aaron Ramsey yn methu gyda’i ergyd o bas Keiffer Moore.
Derbyniodd y rheolwr Robert Page gerdyn melyn am gwyno'n ormodol am dacl ar Daniel James.
Daeth Wcráin yn agos iawn ar ôl 54 munud ond profodd Hennessey ei hun eto a bu'n rhaid i Ben Davies gamu i'r adwy yn fuan wedyn.
Cynyddu gwnaeth y pwysau gan Wcráin yn yr 20 munud olaf gyda Chymru'n gorfod amddiffyn.
Daeth Brennan Johnson ymlaen i eilyddio Daniel James ac fe darodd ei ergyd y postyn ar ôl 74 munud gyda'r golwr yn arbed ergyd gan Bale funud yn ddiweddarach.
Bu'n rhaid i Gymru amddiffyn cyfleoedd gan Wcráin yn fuan wedyn gyda Ben Davies yn arwrol yn ei ymdrechion.
Daeth Harry Wilson ymlaen i eilyddio Gareth Bale ar ôl 82 munud ac fe gafodd capten Cymru gymeradwyaeth enfawr gan y dorf wrth adael y cae.
Bu’n rhaid i Hennessey arbed Cymru eto o beniad gan Wcráin.
Diolch i orchestion Hennessey llwyddodd Cymru i ddal eu tir am fuddugoliaeth hanesyddol.
Llun: Asiantaeth Huw Evans