Rhybudd am stormydd yn dal mewn grym i rannau o Gymru ddydd Sul
Mae rhybudd melyn yn dal mewn grym am stormydd o law trwm i ganolbarth a de Cymru ddydd Sul.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r stormydd gwasgaredig effeithio ar amodau gyrru, amseroedd trenau a chyflenwadau trydan i gartrefi a busnesau am gyfnod byr.
Gallai hyd at 15-20mm o law ddisgyn mewn mannau ac mae disgwyl cyfnodau o gesair a mellt.
Roedd rhybudd melyn mewn grym am ran helaeth o Gymru o 00.00 hyd nes 18:00 ddydd Sul
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi diweddaru'r rhybudd ar gyfer y canolbarth a'r de o 13.00 hyd nes hanner nos a gall lifogydd arwain ar ddŵr yn llifo’n gyflym ac yn ddwfn ar rai ffyrdd.
Roedd stormydd mellt a tharanau wedi effeithio Sir Gwynedd brynhawn ddydd Gwener.
⚠️ Yellow weather warning issued ⚠️
— Met Office (@metoffice) June 4, 2022
Thunderstorms across much of England and Wales, valid Sunday 0000-1800
Latest info 👉 https://t.co/QwDLMfRBfs
Stay #WeatherAware pic.twitter.com/0QuLof7zOl