
Diwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022
Dydd Sadwrn yw diwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Ar ddiwedd wythnos llawn cystadlu mae Newyddion S4C yn edrych nôl ar rai o brif ddwigwyddiadau’r Maes.
Dyma oedd yr Eisteddfod gyntaf ar ôl cael ei gohirio am ddwy flynedd yn sgil y pandemig ac roedd rhai newidiadau.
Roedd dim rhagbrofion yn golygu bod pob cystadleuydd wedi cael cyfle i berfformio ar lwyfan.
Gyda tri phafiliwn ar y maes - y Pafiliwn Coch, Gwyn a Gwyrdd doedd dim stop ar y cystadlu drwy gydol yr wythnos.
Prif wobrau’r ŵyl
Y Fedal Gyfansoddi oedd y brif gystadleuaeth ddydd Llun a Shuchen Xie oedd yr enillydd.
Yn ddisgybl 12 oed yng ngholeg St. John’s, Caerdydd Shuchen yw'r cystadleuydd ieuengaf erioed i gipio un o brif wobrau'r ŵyl.
Tro’r dysgwyr oedd hi ddydd Mawrth a Josh Osborne o Poole enillodd Medal y Dysgwyr.
Anna Ng o Gaerdydd oedd enillydd Medal Bobi Jones, medal sy’n cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut mae ef neu hi yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.
Osian Wynn Davies, myfyriwr y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn gipiodd Y Fedal Ddrama ddydd Mercher.
Diwrnod y cadeirio oedd hi ddydd Iau, a bu teilyngdod. Ciarán Eynon o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Mae Ciarán bellach yn byw yn Llundain ar ôl astudio ym mhrifysgolion Warwick a Chaerdydd.
Twm Ebbsworth o bentref Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion gipiodd y goron ar ddydd Gwener.
Mae Twm ar fin cwblhau cwrs ôl-radd yn Adran y Gymraeg Aberystwyth.
Gŵyl Triban

Dydd Iau oedd diwrnod cyntaf Gŵyl Triban, gŵyl newydd sbon oedd yn cael ei ddisgrifio fel "aduniad mwya'r ganrif".
Yn ystod dydd Iau a Gwener, roedd artistiaid gan gynnwys Adwaith, Tara Bandito, Bwncath, Yws Gwynedd a N'Famady Koyaté yn perfformio ar draws y tri llwyfan ar y maes.
Bydd Gŵyl Triban yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn hefyd gydag Eden yn perfformio gyda’r nos.