Dynes wedi marw tra'n dringo yn Eryri
Mae dynes wedi marw tra'n dringo ar fynydd yn Eryri ddydd Iau.
Fe ddisgynnodd y ddynes wrth ddringo ar fynydd y Glyder Fach.
Cafwyd hyd iddi'n anymwybodol gan ddringwyr eraill cyn i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen gyrraedd er mwyn ceisio ei chynorthwyo, ond nid oedd modd achub ei bywyd.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd llefarydd ar ran y tîm: "Am 14:30 daeth adroddiadau bod dringwr wedi syrthio ar y Glyder Fach...ac roedd yn anymwybodol.
"Symudodd dringwyr cyfagos i helpu ac fe gafodd ei chodi gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau ond yn anffodus ni wnaeth oroesi.
"Yna bu dringwyr yn cynorthwyo ei phartner yn ôl i lawr y ddringfa at aelodau'r tîm oedd yn aros islaw, a gofalwyd amdani yn y ganolfan. Mae'r tîm yn meddwl am deulu'r fenyw fu farw, ei ffrindiau a'i phartner dringo. Hoffai'r tîm hefyd ddiolch i'r dringwyr cynorthwyol am eu cymorth."