'O HYD': Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Sage Todz yn rhyddhau trac newydd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cydweithio gyda'r artist Sage Todz, i ryddhau'r trac ecsgliwsif 'O HYD' cyn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd rhwng Cymru ac Wcráin ddydd Sul.
Mae'r trac yn cychwyn gyda darn o fersiwn gwreiddiol y gân 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan ac yna yn cael ei ddilyn gan rap Sage Todz.
Dywedodd Sage Todz bod "Cymdeithas Bêl-droed Cymru a thimau cenedlaethol Cymru yn hollbwysig i'r wlad.
“Pan mae pêl-droedwyr yn cynrychioli eu gwlad, mae hi'n fwy na dim ond gêm, mae'n gymuned, yn undod ac yn gynrychiolaeth o bwy ydym ni a beth fedrwn ni, fel Cymry, ei wneud.
"Mae diwylliant Cymru yn golygu lot i mi fel artist. Dwi'n siarad Cymraeg yn fy mywyd bob dydd ac felly mae hi'n naturiol i mi rannu ein hiaith yn y gerddoriaeth dwi'n greu."
Dywedodd Pennaeth Cynnwys ac Ymgysylltu CBD Cymru, Rob Dowling, bod "y cydweithio yn cynrychioli cyfuniad o genedl fodern gydag enaid hynafol, oherwydd mae Yma o Hyd gan Dafydd Iwan yn boblogaidd iawn ymysg y Wal Goch a thimau cenedlaethol Cymru.
“Mae geiriau ac ystyr y gân i’w gweld yn greiddiol yn y ffordd yr ydym yn uniaethu â bod yn Gymry, ac i Sage, mae'r mynegiant creadigol yma i'w gael yn 'O HYD'."
Bydd Cymru yn wynebu Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul, gyda'r gic gyntaf am 17:00.