Wythnos Gwin Cymru: Cyfle i gael blas ar win Cymreig
Bydd Wythnos Gwin Cymru yn cael ei chynnal rhwng 4 a 12 Mehefin lle bydd digwyddiadau amrywiol yn ystod yr wythnos.
Gyda gwin Cymreig yn ganolog i'r wythnos, bydd cyfle i bobl gael blas ar win o winllannoedd Cymru mewn bwytai a siopau lleol.
Mae hi'n gyfnod cyffrous i winllannoedd Cymreig gyda'r nifer ohonynt yn cynyddu yn rheolaidd: o Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin, ac o Ddyffryn Clwyd i Ynys Môn.
Mae gwinllannoedd wedi bodoli yng Nghymru ers yr amser Rhufeinig, ac fe gafodd y winllan fodern gyntaf yn y Deyrnas Unedig ei lleoli yng Nghastell Coch yn 1875.
Blas ar y digwyddiadau
Bydd llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos, gan gynnwys taith o amgylch Gwinllan Fferm Parva a'r cyfle i flasu'r gwin am ddim yno ar 4 Mehefin.
Yn ogystal, mae Gwinllan Conwy yn cynnal noson caws a gwin yn Bwyd Cymru Bodnant yn Nhal-y-Cafn ar 6 Mehefin lle bydd cyfle i flasu cynnyrch Cymreig sydd wedi ennill gwobrau.
Bydd Gwin Pobl y Mynydd yn cynnal noson yng nghwmni y gwneuthrwr gwin, Dave Morris, wrth iddo siarad am y gwindy 'Mountain People' yn ogystal â thrafod y tair gwinllan yng Nghymru sy'n cynhyrchu eu gwin.
Ar 11 Mehefin, mae Gwinllan Hebron yn cynnig taith o amgylch y winllan lle bydd cyfle i holi cwestiynau am win Cymreig a sut mae cynhyrchu gwin yn naturiol.