
Gŵyl yng Ngheredigion i ddathlu cyfraniad y band Datblygu
Gŵyl yng Ngheredigion i ddathlu cyfraniad y band Datblygu
Bydd gŵyl yn cael ei chynnal yng Ngheredigion dros y penwythnos i ddathlu cyfraniad y band Datblygu i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru.
Bu farw prif leisydd y band, David R Edwards, fis Mehefin y llynedd yn 56 oed.
Fe fydd yr ŵyl yn dechrau nos Wener am 19:30 gyda noson ffilmiau yn Llanbedr-pont-Steffan.
Bydd sesiwn holi ac ateb yng nghwmni Pat Morgan, aelod o Datblygu, am 16:00 ddydd Sadwrn, gyda Gig Dathlu Datblygu i ddilyn am 19:30.
Bydd yr ŵyl yn dod i ben ddydd Sul gyda Thaith Bywyd Dave yng nghwmni Malcolm Gwyon yn dechrau am 10:45 ym maes parcio Pwll Nofio Aberteifi.

'Wrth fy modd'
Marcus Woodfield sydd wedi mynd ati i drefnu'r ŵyl.
"Dwi’n dysgwr Cymraeg fy hunan a dwi wedi bod yn trefnu penwythnosau yma jyst i bobl sy’n dysgu Cymraeg i ymarfer Cymraeg," meddai.
"Felly y tro ‘ma o’n i’n trio ffeindio rhywbeth gwahanol, rhywbeth newydd i ‘neud.
"A dwi’n ffan mawr o Datblygu, felly penderfynais i i trio gwneud rhywbeth rhwng Datblygu a bobl sy’n dysgu Cymraeg."
Mae Marcus wedi dysgu'r iaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac wedi dod yn hoff iawn o gerddoriaeth Datblygu yn y cyfnod hwnnw.
"O’n i’n ffan mawr o grwpiau fel New Order a Echo a’r Bunnymen a stwff fel ‘na so pan clywais i Datblygu cwpwl o blynyddoedd yn ôl, o’n i’n wrth fy modd rili," ychwanegodd.
"So dwi’n licio’r sŵn ac dwi wedi gwneud lot o ffrindiau yn y cymuned dysgwr sy’n licio Datblygu hefyd."