Johnny Depp yn ennill ei achos difenwi yn erbyn Amber Heard

The Washington Post 01/06/2022
Depp v Heard

Mae'r actor Johnny Depp wedi ennill ei achos difenwi yn erbyn ei gyn-wraig Amber Heard. 

Fe wnaeth Mr Depp ddwyn achos yn erbyn Ms Heard gan hawlio $50m gan ddadlau fod ei yrfa wedi ei niweidio o ganlyniad i erthygl ganddi oedd yn honni iddi ddioddef camdriniaeth tra'r oedd mewn perthynas gyda Depp.

O ganlyniad fe wnaeth Amber Heard ddwyn achos yn erbyn Depp gan hawlio $100m yn ei erbyn.

Yn dilyn achos llys yn Virgina sydd wedi hawlio'r penawdau ar draws y byd dros gyfnod o chwe wythnos, penderfynodd y rheithgor bod yr hyn ysgrifennodd Ms Heard yn gelwydd ac felly yn difenwi Mr Depp. 

Roedd yn rhaid i'r rheithgor o saith gyrraedd penderfyniad unfrydol yn yr achos.

Mae'r llys wedi dyfarnu y bydd Mr Depp yn derbyn $15m yn dilyn canlyniad yr achos.

Fe fydd Ms Heard hefyd yn derbyn $2m, wedi i'r llys ddyfarnu bod cyfreithiwr Mr Depp wedi'i difenwi o flaen yr achos.

Darllenwch ragor yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.