Newyddion S4C

Osian Wynn Davies yn cipio'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych

01/06/2022
Osian fedal ddrama

Osian Wynn Davies sydd wedi cipio'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Urdd Sir Ddinbych 2022.

Yn wreiddiol o Lanfairpwll, Ynys Môn, mae Osian wedi byw yng Nghaerdydd ers iddo symud yno i astudio BA yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Graddiodd yn 2019 ac mae’n gweithio fel cyfieithydd i Brifysgol Met Caerdydd.

Mae’n ymddiddori mewn pêl-droed ac yn gefnogwr brwd o dîm Caerdydd a Chymru. Daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod T 2020. Dyma ei ymgais gyntaf ar ysgrifennu sgript a’r tro cyntaf iddo gystadlu yng nghystadleuaeth y fedal ddrama.

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.

Cystadlu am y tro cyntaf

Dyma oedd ymgais gyntaf Osian ar ysgrifennu sgript a’r tro cyntaf iddo gystadlu yng nghystadleuaeth y fedal ddrama.

Bydd Osian yn treulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â derbyn mentora gan dîm Theatr Genedlaethol Cymru, bydd cyfle iddo gael ei fentora gan Gomisiynydd Drama S4C a gweithio gyda rhai o’u hawduron sgriptiau diweddaraf.

Meddai Llinos Geraint yn ei beirniadaeth: “Roedd nifer fawr o’r dramâu yn wreiddiol, yn ffres yn afaelgar ac yn deimladwy. Byddem wedi bod yn fwy na hapus i wobrwyo’r tair drama ddaeth i’r brig.

"Dau ffrind yn eu harddegau yn cael sgwrs dros beint yw cymeriadau’r ddrama fuddugol ‘Un Bach Arall’. Mae’r hiwmor a’r tynnu croes yn clecian o’r cychwyn cyntaf a’r ddeialog yn llifo mor rhwydd. Mae’r is-destun yn siarad cyfrolau am frwydr fewnol un o’r cymeriadau ac mae ei ffawd yn ergyd bwerus. Dyma ddrama sy’n ymdrin yn gelfydd ag iechyd meddwl dynion ifanc, a phwysigrwydd siarad yn agored. Mae’n waith ffres ac egnïol.”

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Erin Hughes o Ben Llŷn, a Lois Medi Wiliam o Gaernarfon oedd yn drydydd.

Anrhydeddu enillydd blaenorol

Bu i Erin Hughes ennill Coron Eisteddfod yr Urdd 2018, ond oherwydd salwch nid oedd modd iddi fod yn bresennol yn seremoni’r Coroni.

O ganlyniad, bu i’r Urdd gymryd y cyfle i’w hanrhydeddu ddydd Mercher mewn person fel Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.

Noddwyd y wobr gan Bapur Bro’r Bedol a'r seremoni gan Gyngor Tref Dinbych. Bydd y tri buddugol yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.