Shuchen Xie yn cipio'r Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod yr Urdd

Shuchen Xie sydd wedi cipio'r Fedal Gyfansoddi yn Eisteddfod Urdd Sir Ddinbych 2022.
Hi yw'r cystadleuydd ieuengaf erioed i gipio un o brif wobrau'r ŵyl.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gwydion Powel Rhys, Cylch Bangor Ogwen a Kai Edward Fish o Gwm Rhymni oedd yn drydydd.
Yn ddisgybl 12 oed yng ngholeg St. John’s, Caerdydd mae Shuchen yn gerddor angerddol sy’n chwarae’r piano, sacsoffon a sielo.
Ers tair blynedd mae hi’n dilyn cwrs cyfansoddi conservatoire Iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae cyfansoddi yn apelio’n fawr i Shuchen a chyrhaeddodd rownd derfynol Cyfansoddwr Ifanc NCEM & BBC Radio 3 yn 2021, yn ogystal ag ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd yng Ngŵyl Cerddorion Ifanc Abertawe.
Mae hi’n wyneb cyfarwydd i’r Urdd ac mae hi wedi perfformio lawer gwaith ar lwyfan y genedlaethol – enillodd yr unawd piano a chystadleuaeth gyfansoddi iau (cynradd) Eisteddfod T y llynedd.
Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi naill ai cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd; rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd; cyfansoddiad i un neu ddau offeryn neu gyfansoddiad i ensemble offerynnol.
Y beirniad oedd Mared Emlyn.
Yn ei beirniadaeth, meddai Mari Emlyn: “Dwi wedi fy nghalonogi’n fawr gyda safon y gystadleuaeth eleni, ac roedd hi’n anodd iawn gwahanu gyda’r safon mor uchel. Ges i fy rhyfeddu gan allu’r cyfansoddwr buddugol i symud drwy gyweiriau, harmonïau ac amsernodau gwahanol mewn ffordd mor naturiol. Llongyfarchiadau mawr i bawb.”
Derbyniodd Shuchen y Fedal, sef Medal Goffa Grace Williams, wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron. Rhoddwyd y Fedal hon gan Gôr Rhuthun a noddwyd y seremoni gan Gyngor Sir Dinbych.