'Dim pleidlais o ddiffyg hyder' yn arweinyddiaeth Boris Johnson medd Raab

Ni fydd Boris Johnson yn wynebu pleidlais ar ei arweinyddiaeth wythnos nesaf, yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog.
Roedd Dominic Raab yn awyddus i bwysleisio nad oedd yna berygl i arweinyddiaeth Mr Johnson er i 41 o Aelodau Seneddol alw arno i ymddiswyddo yn sgil adroddiad Sue Gray.
Cafodd yr adroddiad i bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo ei gyhoeddi ddydd Mercher diwethaf.
Dywedodd fod y sôn am bleidlais o ddiffyg hyder yn enghraifft o "San Steffan yn siarad gyda'i hun".
Darllenwch fwy yma.
Llun: Rhif 10