Newyddion S4C

'Pobl ddim yn stereoteipio clybiau pêl-droed lleol' yn sgil llwyddiant Cymru

Newyddion S4C 31/05/2022

'Pobl ddim yn stereoteipio clybiau pêl-droed lleol' yn sgil llwyddiant Cymru

Mae yna hanes o bêl-droed yn Nyffryn Nantlle - o'r clwb sydd dros 100 mlwydd oed - i'r chwaraewyr chwedlonol fel Orig Williams a Tharw Nefyn.

Ond mae yna ddyfodol disglair yma hefyd i'r chwaraewyr ieuengaf - i'r pêl-droedwyr sydd bellach yn chwarae i'r tîm cyntaf yng Nghynghrair Bêl-droed yn Ardal y Gogledd Orllewin.

Dyma’r tymor cyntaf o’r cystadlu dan strwythur newydd sbon. Y nod oedd creu system fwy proffesiynol, a’r teimlad yw bod hyn oll wedi digwydd law yn llaw gyda llwyddiant y tîm rhyngwladol.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Begw Elain o Glwb Pêl-droed Nantlle Vale: "Dwi'n meddwl ma' llwyddiant tîm cyntaf Cymru jyst di sbarduno'r clybiau pêl-droed lleol ma' i gyd. Heb lwyddiant nhw yn Euro 2016 'sa ni ddim mewn sefyllfa lle yda ni heddiw dwi'm y meddwl. Achos ma' nhw wedi mynd nôl i sylfaen y chwaraewr sef clybiau pêl-droed lleol.

"Ma' chwaraewyr y dyfodol yn cychwyn ar y caeau pêl-droed lleol dio'm otch os yda chi'n Aron Ramsey, Gareth Bale, ma' pawb yn cychwyn ar gaeau fel hyn.

"Di pobl ddim yn stereoteipio clybiau pêl-droed lleol fatha caeau tatws wan, fatha 'da ni'n mynd yn fwy proffesiynol. Er tyda ni ddim yn glwb sy'n talu dim un o'n chwaraewyr ni, ond 'da ni wedi rhoi seti yn y stand, ma' 'na speakers rownd y cae, 'da ni di gorfod cael 'stafell First Aid, felly mae o wedi bod yn llwyddiant mawr ynde.

"Ond dwi'n gobeithio'n wir awn ni drwodd i'r World Cup a fydd 'na fwy o ddatblygu yn y clwb pêl-droed lleol 'ma."

Ychydig i lawr y ffordd i Ddyffryn Nantlle mae yna glwb pêl-droed arall sy'n chwarae yn yr un gynghrair ac am sawl rheswm wedi llwyddo buddsoddi'n helaeth mewn adnoddau a chyfleusterau.

Mae un o hoelion wyth Llanuwchllyn wedi bod yn cynorthwyo ers tua 20 mlynedd, a gyda chymorth ariannol y Gymdeithas ac ymdrechion gwirfoddolwyr  - mae'r clwb wedi'i drawsnewid.

Image
S4C
Dei Charles o Glwb Pêl-droed Llanuwchllyn.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dei Charles o CPD Llanuwchllyn: "Sa chi'n Llanuwchllyn tair, pedair blynedd yn ôl a hithe'n bwrw a phethe' sa' ni wrth y wal yn oer ac yn wlyb. Ond mae gynnon ni eisteddle rŵan ma' pawb yn gyfforddus yma. A mae 'di bod werth o.

"Dwi'n gobeithio gallwn ni gario 'mlaen. Ond taswn ni eisiau mynd i lefel arall, lefel 2 bydd eisiau chwaneg o bres. A dwi'n gobeithio gwneith y Gymdeithas Bêl-droed helpu ni wedyn.

"A gobeithio byddwn ni'n llwyddiannus yn y Gwpan y Byd a bydd yna fwy o arian yn dod mewn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Fel bydd yna arian ar gael i glybiau fatha ni gario mlaen 'llu.

"Ac mae 'na glybiau da o gwmpas rŵan. Mae 'na glybiau da o gwmpas.'Da ni'n cael mynd i lefydd ar ôl dod i'r gynghrair yma. Fatha Porthmadog, Dyffryn Nantlle, Felinheli.

"Mae'n braf bod ni'n cael mynd at Gymry Cymraeg hefyd ynde."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru newydd gyhoeddi cam cyntaf cynllun uchelgeisiol i wella cyfleusterau ar draws y wlad - gyda bron i 50 o brosiectau yn rhannu tair miliwn o bunnau.

Ac er bod buddsoddi'n holl bwysig, yn ôl cyn-gapten tîm merched Cymru, mae llwyddiant diweddar y crysau cochion a'i gobaith nhw o gyrraedd Qatar yn allweddol o ran datblygu'r gamp ar lefel lawr gwlad.

Gydag un gêm i Gwpan y Byd - mae Cymru ar drothwy creu hanes pêl-droed.

O'r sêr presennol i'r genhedlaeth nesa - fe alla'i hynny drawsnewid y gêm ar draws Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.