Newyddion S4C

Trafferthion yn sgil prinder seddi ar faes yr Urdd

Trafferthion yn sgil prinder seddi ar faes yr Urdd

Fe gododd trafferthion ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Yr Urdd Sir Ddinbych 2022, ar ôl i ran o eisteddleoedd y tri phafiliwn orfod cau i'r cyhoedd am resymau iechyd a diogelwch.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd yr Urdd fod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi dweud yn hwyr nos Wener nad oedd modd "defnyddio seddau sydd ar oledd gan ein contractwyr - Austen Lewis Ltd, yn ein tri phafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd hyd nes y clywir yn wahanol."

Mae cyfanswm o ryw fil o seddi yng nghefn y tri phafiliwn yn methu â chael eu defnyddio.

Ac mae trafferthion wedi codi a chiwiau hir i wylio'r cystadlu. Yng ngeiriau un ar y maes, roedd y sefyllfa "bach yn chaotic ". Soniodd rhai am "ddiffyg trefn" tra roedd eraill yn derbyn mai "steddfod yw steddfod ". 

Yn ôl Urdd Gobaith Cymru, bu'n rhaid iddyn nhw weithredu "yn dilyn digwyddiad cyhoeddus yn Llundain wythnos diwethaf ble cwympodd eisteddle".

Ychwanegodd yr Urdd: "Diogelwch ein teuluoedd sy'n ymweld â’r Eisteddfod yw ein blaenoriaeth. Fe fyddwn yn sicrhau fod yr holl gefnogwyr yn cael mwynhau'r cystadlu ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sydd tu hwnt i’n rheolaeth. "

Dywedodd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru wrth Newyddion S4C bod "cyffro'r cystadlu heb gael ei golli " gan ychwanegu bod "pawb oedd eisiau gwylio heddi, wedi gallu gwneud hynny ".

Awgrmymodd Siân Lewis hefyd ei bod yn hyderus bod modd datrys y mater cyn y cyngherddau yn ddiweddarach yn yr wythnos. 

 Ar ôl bwlch oherwydd y pandemig, eleni am y tro cyntaf, mae tri phafiliwn ar y maes. Does dim rhagbrofion ac mae mynediad am ddim i'r maes.   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.