Newyddion S4C

Cyn aelod o'r cabinet yn galw ar Boris Johnson i ymddiswyddo

Credit: JeremyWright.org

Jeremy Wright, y cyn ysgrifennydd diwylliant a thwrnai cyffredinol yw'r Aelod Seneddol Ceidwadol diweddaraf i alw ar Boris Johnson i ymddiswyddo. 

Mewn datganiad, dywedodd Aelod Seneddol Kenilworth a Southam na allai fod yn sicr a yw'r Prif Weinidog wedi camarwain aelodau seneddol ond fod Mr Johnson wedi gwneud "difrod parhaol".  

Cafodd y datganiad ei ddileu yn ddiweddarach.  

Doedd y datganiad ddim yn nodi a yw Jeremy Wright wedi cyflwyno llythyr yn datgan diffyg hyder yn Mr Johnson i'r Pwyllgor 1922, sy'n cynnwys aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr.  Mae angen 54 o aelodau i nodi hynny, cyn i bleidlais gael ei chynnal ar ddyfodol Boris Johnson. Ar hyn o bryd, mae tua 20 o aelodau wedi cysylltu â'r pwyllgor yn gofyn am y bleidlais honno.

Darllenwch fwy yma 

Llun: JeremyWright.org

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.