Sgandal Windrush wedi'i hachosi o achos '30 mlynedd o gyfreithiau mewnfudo hiliol'

Mae adroddiad llywodraethol wedi canfod bod sgandal Windrush wedi'i achosi o achos "30 mlynedd o gyfreithiau mewnfudo hiliol" a oedd wedi'u llunio er mwyn cwtogi poblogaeth croenliw y DU.
Cafodd cannoedd o bobl eu heffeithio gan y sgandal wrth i'r Swyddfa Gartref geisio alltudio nifer o bobl a symudodd o wledydd y Caribî i'r DU.
Roeddent wedi symud i Brydain am fod yna brinder gweithwyr wedi'r Ail Ryfel Byd.
Bellach mae adroddiad gan y Swyddfa Gartref wedi amlinellu bod y sgandal wedi digwydd o achos hiliaeth o fewn y system gyfreithiol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Yn ôl yr adroddiad, mae methiant i sylweddoli bod newidiadau yng nghyfreithiau mewnfudo wedi cael effaith mwy negyddol ar bobl du a chroenliw i gymharu gyda hiliau eraill yn un o brif achosion y sgandal.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Steve Eason