Merched ag awtistiaeth yn gorfod aros chwe blynedd yn fwy na bechgyn i gael diagnosis

Merched ag awtistiaeth yn gorfod aros chwe blynedd yn fwy na bechgyn i gael diagnosis
Mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru i wneud yn siŵr bod merched yn cael diagnosis yn gynt. Yn ôl y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol mae merched yn aml yn cael diagnosis anghywir ac mae hynny'n gallu arwain at broblemau iechyd. Yn ôl ymchwil gan academydd o brifysgol Abertawe, mae merched ag awtistiaeth yn gorfod aros chwe blynedd yn fwy na bechgyn i gael diagnosis.