Dyn 29 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl
28/05/2022
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi fod dyn 29 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Rhyl nos Fercher.
Cafodd swyddogion eu galw i'r gwrthdrawiad ar Ffordd Dyserth rhwng beic modur oddi-ar ffordd a VW Golf ychydig cyn 20:00.
Cafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd mewn ambiwlans gydag anafiadau difrifol ac fe dderbyniodd gyrrwr y Golf man anafiadau.
Dywedodd yr heddlu fod y beiciwr modur, oedd yn byw yn lleol, wedi marw brynhawn ddydd Gwener.
Mae'r llu yn dal i ofyn i unrhyw lygad-dystion neu unrhyw un a welodd y beic modur cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio cyfeirnod 22000361614.