AS Ceidwadol blaenllaw yn arwyddo llythyr o ddiffyg hyder yn Boris Johnson

Bob Neill / Wikimedia Commons

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol blaenllaw, Syr Bob Neill, wedi arwyddo llythyr o ddifyg hyder yn arweinyddiaeth Boris Johnson.

Daw hyn wrth i'r nifer o ASau Ceidwadol sy'n galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo barhau i gynyddu yn sgil canfyddiadau adroddiad Sue Gray.

Mewn datganiad, dywedodd Syr Bob bod "adroddiad Sue Gray yn amlinellu cyfres o ymddygiadau cwbl annerbyniol dros gyfnod o fisoedd gan y rhai yn gweithio yn Rhif 10 Downing Street. 

"Dwi wedi gwrando yn ofalus ar yr esboniadau mae'r Prif Weinidog wedi ei roi, ac yn anffodus, nid ydwyf yn credu eu bod yn gredadwy. Dyna pam, gyda chalon drom, fy mod i wedi arwyddio llythyr o ddifyg hyder at Syr Graham Brady brynhawn dydd Mercher."

Mae angen 54 o lythyrau i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Llun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.