Pryder y gallai capel gael ei werthu i'r prynwr uchaf heb gyfle i greu canolfan i bobl leol
Mae pobl ym mhentref Edern ym Mhen Llŷn yn poeni y gallai'r capel lleol gael ei werthu i'r prynwr uchaf heb gyfle i'w droi yn ganolfan ac adnodd i bobl leol.
Roedd y capel yn ganolbwynt i'r gymuned am dros ganrif a mwy ond erbyn heddiw, mae'r adeilad yn wag.
Mae gobaith aelodau o geisio denu cynulleidfa newydd yn her wrth ystyried cyflwr dirywiol yr adeilad, ac o'r herwydd, mae'r angen i ddarganfod pwrpas newydd ar gyfer y capel yn ffactor blaenllaw yn ôl swyddogion.
Dywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, bod "angen i bob un cymuned edrych ar y llefydd cyhoeddus sy' 'da ni, a sut 'da ni'n gwneud y defnydd gorau ohonyn nhw i'r dyfodol.
"Mae rhaid i ni o fewn ein cymunedau cael y sgwrs am pa rhai sy' fwya' pwysig i ni, a be yn union 'da ni eisiau cael ei gwneud."
Fe fethodd cymuned Pistyll i brynu eu capel lleol y llynedd, ac yn sgil hyn, mae yna alwadau i gydweithio er mwyn sicrhau nad ydi adeiladau o'r fath yn gadael meddiant y gymuned.
Dywedodd Prif Weithredwr mudiad crefyddol Cytun, y Parchedig Aled Edwards bod y "broses yn un eithriadol o emosiynol ac anodd, ond dwi'n credu yn gyffredinol mi fydd yna deimlad cry' iawn y dyle adeiladau cael eu parchu a'u defnyddio ar gyfer diben sydd yn bwrpasol ac yn dda, a bod y defnydd amgen yn fuddiol i gymdeithas o gwmpas pobl.
Bydd cyfarfod cyhoeddus am ddyfodol yr adeilad yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.