Newyddion S4C

Teuluoedd incwm isel yng Nghymru i dderbyn cymorth o dros £1,000

26/05/2022
Arian Costau Biliau

Mae'r Canghellor, Rishi Sunak, wedi cyhoeddi y bydd miliynau o gartrefi ar hyd y Deyrnas Unedig yn elwa o gytundeb gwerth £15 biliwn gan Lywodraeth y DU i'w helpu yn sgil yr argyfnwg costau byw. 

Bydd y teuluoedd mwyaf bregus yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth o dros £1,000 eleni, sy'n cynnwys taliad costau byw gwerth £650. 

Yn ogystal, bydd taliadau ar wahân o £300 i aelwydydd pensiynwyr a £150 i unigolion sy'n derbyn budd-daliadau anabledd gan mai'r rhain ydy'r grwpiau sy'n fwyaf bregus i gostau byw cynyddol.  

Cyhoeddodd Mr Sunak hefyd y bydd y gostyngiad mewn biliau ynni o fis Hydref ymlaen yn cael eu dyblu o £200 i £400, ac ni fydd yn rhaid eu had-dalu. 

Dywedodd y Canghellor "er mwyn rheoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol, mae'n rhaid i ni godi arian er mwyn talu am y mesurau hyn."

"O ganlyniad, rydym ni'n cyhoeddi treth dros dro ac wedi ei dargedu ar yr enillion sylweddol mae'r diwydiant olew a nwy yn ei wneud yn sgil prisiau olew a nwy uchel iawn."

Fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, ddatgan y bydd y "mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i leihau'r pwysau ar filoedd o bobl ar draws Cymru.

"Mae'n dangos, fel y gwnaethom ni drwy gydol y pandemig, y byddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn bywoliaeth pobl ac adeiladu economi gryfach ar gyfer y Deyrnas Unedig."

Llun: Trysorlys / Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.