Penodi Darren Price yn arweinydd newydd ar Gyngor Sir Gâr
Mae'r Cynghorydd Darren Price o Blaid Cymru wedi'i benodi fel arweinydd newydd ar Gyngor Sir Gaerfyrddin.
Daw penodiad Mr Price wedi i Blaid Cymru, mewn partneriaeth gyda chynghorwyr annibynnol, ennill mwyafrif ar y cyngor yn ystod yr etholiadau lleol.
Mae Mr Price wedi cynrychioli ward Gorslas ar y cyngor ers 2012.
Mae'n cymryd lle Emlyn Doyle fel arweinydd y cyngor wedi i Mr Doyle golli ei sedd yn ystod yr etholiadau.
Cafodd apwyntiad Mr Price ei gadarnhau ynghyd a'i Gabinet newydd yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y cyngor.
Yn dilyn ei apwyntiad, dywedodd Darren Price ei fod yn awyddus i ddechrau ar waith ym meysydd fel yr argyfwng newid hinsawdd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus:
"Dros y blynyddoedd nesaf rwy'n awyddus iawn i ymgysylltu'n rheolaidd ag aelodau o ochr arall y siambr, er mwyn trafod eu syniadau a'u pryderon, ac er mwyn cydweithio er lles pawb," meddai.
"Mae'r cyngor eisoes wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith yn y meysydd hyn a'r dasg i ni nawr yw adeiladu ar y sylfeini cadarn hynny a gwireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Sir Gâr."
Llun: Plaid Cymru