Yr Urdd yn cyhoeddi enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai sylfaenwyr ac arweinyddion Adran Aberystwyth yw enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes, Eisteddfod yr Urdd 2022.
Helen Medi Williams a Lona Phillips fydd yn derbyn y tlws sy'n cael ei gyflwyno yn flynyddol yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd, fel gwobr am gyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Mae Helen yn athrawes yn Ysgol Rhydypennau, Bow Street, ac mae Lona yn nyrs yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.
Yn ogystal â hyfforddi a chynorthwyo Aelwyd Aberystwyth, chwaraeodd y ddwy ran flaenllaw yn ei sefydlu yn 2009 er mwyn sicrhau cyfle i blant y dref a’r cyffiniau gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Ceredigion 2010 a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Adran ar gyfer plant cynradd oedd hi pan gafodd ei sefydlu’n wreiddiol, ond ers 2013 mae ganddi hefyd adran uwchradd.
Dywedodd llefarydd ar ran aelodau a rhieni Aelwyd Aberystwyth: “Mae ymroddiad Helen a Lona a’u brwdfrydedd wrth gyfrannu’n gwbl wirfoddol at ddatblygiad a phrofiadau pobl ifanc Aberystwyth a’r cyffiniau yn eu gwneud yn gwbl deilwng o Dlws John a Ceridwen Hughes.”
Roedd Siwan Fflur Davies yn un o'r aelodau cyntaf yn 2009.
"Bues i’n cystadlu bob blwyddyn hyd at Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro 2019. Mae gennyf lawer o atgofion melys ac rwy’n ddiolchgar iawn i Adran Aberystwyth, ac i Helen a Lona yn arbennig, am bob cyfle," meddai.
Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Mae Helen a Lona wedi cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i blant a phobl ifanc Aberystwyth ers degawd a mwy bellach, ac mae hi’n fraint a phleser eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni.
"Mae’r Urdd yn ddibynnol ar bobl weithgar, cydwybodol fel hyn i’w gynnal a’i hyrwyddo.”
Cafodd Helen a Lona wybod eu bod wedi ennill y wobr yn ystod un o ymarferion Aelwyd Aberystwyth, pan aeth y cyflwynydd Heledd Cynwal yno i ddatgelu'r cyfan.
Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes Uwchaled ei roi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen Hughes oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.
Bydd y seremoni i gyflwyno’r tlws yn cael ei chynnal ddydd Iau, 2 Mehefin ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.
Llun: Elin Mabbut