Newyddion S4C

Angen buddsoddiad ychwanegol i sicrhau bod menywod awtistig yn cael diagnosis yn gyflymach

Newyddion S4C 23/05/2022

Angen buddsoddiad ychwanegol i sicrhau bod menywod awtistig yn cael diagnosis yn gyflymach

Mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod menywod a merched awtistig yn cael diagnosis yn gyflymach, yn ôl elusennau. 

Dywedodd y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol fod menywod a merched yn aml yn cael diagnosis anghywir, sydd yn gallu arwain at anawsterau iechyd meddwl sy’n cyd-fodoli ag awtistiaeth, fel gorbryder, anhwylderau bwyta neu iselder. 

Yn ôl ymchwil gan academydd ym Mhrifysgol Abertawe, ar gyfartaledd mae merched ag awtistiaeth yn gorfod aros 6 blynedd yn hirach i gael diagnosis o’i gymharu â bechgyn awtistig. 

Dywed Llywodraeth Cymru ei fod yn cynnal adolygiad o’r galw am bob gwasanaeth niwroddatblygiadol i bob oed i wella’r gwasanaethau. 

'Problem fawr yn cael diagnosis'

Cafodd Rhiannon Lloyd-Williams o Langynfelyn ddiagnosis o awtistiaeth pan oedd hi’n 35 oed.

Mae’n dweud fod y broses o ofyn am diagnosis yn hir.

“Edrych nôl nawr rydw i'n gallu gweld bod lot o amserau o'n i wedi ymateb i pethau fel rywun awtistig ond doedd gen i ddim syniad bo fi'n awtistig," meddai wrth Newyddion S4C. 

“Doedd e ddim yn rhwydd cael y diagnosis, a hefyd doedd neb proffesiynol byth yn fy mywyd wedi dweud i fi 'Falle rwyt ti yn awtistig."

Image
Rhiannon Lloyd-Williams
Dywedodd Rhiannon Lloyd-Williams nad oedd y broses o gael diagnosis yn un hawdd

“Roedd raid i fi dod i hyd i'r gwybodaeth, roedd raid i fi ymchwilio fe, roedd raid i fi fynd trwy'r stages i cael y diagnosis. Roedd yn cymryd lot o egni a amser i cael y diagnosis. 

“Mae 'na problem fawr yn cael diagnosis fel menyw, a ma' hynny'n problem dros y byd i gyd. Mae e jyst dal yn cael ei weld yn rhywbeth sy'n digwydd i bechgyn a dynion."

Ar ol derbyn ei diagnosis, dechreuodd Rhiannon ysgrifennu am ei theimladau a’i phrofiadau ar-lein. 

"Mae'r blog yn helpu fi i prosesu beth dwi'n teimlo. Mae'n helpu fi i mynd nôl a meddwl am fy mywyd, a mae'n helpu fi delio gyda'r camddealltwriaeth rydw i wedi roi ato fy hunan."

"Nes i rannu'r linc ar trydar a roedd cymdeithas awtistig mas 'na, a croesawodd nhw fi, roedd y croeso... sai'n gallu esbonio pa mor bwysig i fi oedd e."

"Rwyt ti'n teimlo'n unig iawn yn tyfu lan yn awtistig o gwmpas pobl sydd ddim, a mae'n teimlad o bod yn rhan o'r cymuned 'ma yn mor bwysig."

'Diagnosis anghywir'

Mae Steffan Davies, academydd o Brifysgol Abertawe, wedi cynnal ymchwil eang yn canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng merched a bechgyn awtistig.

Mae ei ymchwil, sydd yn seiliedig ar bron 400 o gyfranwyr, wedi darganfod fod 75% o fechgyn awtistig yn cael diagnosis cyn 10 mlwydd oed. Tra chafodd ond 50% o ferched awtistig ddiagnosis yn 10 oed a throsodd.

Fe wnaeth ymchwil Steffan hefyd darganfod bod bechgyn awtistig yn cael diagnosis rhwng 4-6 mlwydd oed, tra bod merched awtistig yn cael diagnosis rhwng 10-12 mlwydd oed.

“Yn ôl y rhieni a gymrodd ran yn yr astudiaeth, roedd aros am ddiagnosis yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl y merched," dywedodd. 

“Mae nifer yn gorfod aros am amser hir i gael diagnosis yng Nghymru, ond mae’r oedi yn gallu bod yn niweidiol iawn i ferched oherwydd mae nhw’n bellach ymlaen yn eu datblygiad."

Image
Rhiannon Lloyd-Williams
Mae Rhiannon yn un o nifer sydd wedi gorfod aros amser hir i gael diagnosis

“Roedd nifer fawr o’r ferched yn yr astudiaeth wedi cael diagnosis anghywir, fel diagnosis o orbryder, neu anhwylderau bwyta. Ond roedd y brif diagnosis yn aml yn cael i’w golli, sef diagnosis awtistiaeth."

Mae elusennau yn dweud bod angen buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd i allu hyfforddi gweithwyr yn y sector i allu adnabod y cyflwr.

Yn ol Julie Richards o’r elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru, mae rhai menywod yn penderfynu chwilio am ddiagnosis trwy wasanaethau iechyd preifat, yn hytrach na gyda’r gwasanaeth iechyd.

“Beth i ni’n clywed yw fod yna oedi o ran diagnosis, fod na diagnosis anghywir. A beth ni yn clywed nawr sy’n poeni ni’n arw iawn yn ein mudiad, yw bod merched yn troi at wasanaethau iechyd preifat i gael diagnosis amserol, ond diagnosis cywir hefyd. 

“Rydyn ni’n gofyn i Lywodraeth Cymru i cyd-greu ac i cyd-weithio gyda menywod awtistig, i sicrhau fod yna darpariaeth sy’n cydraddol a cywir, sy’n benodol i ferched awtistig yng Nghymru.

“Mae angen i hwn cael ei wneud yn gyflym iawn. Mae’n effeithio ar iechyd a lles merched.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau sydd ar wasanaethau niwroddatblygiadol, gan gynnwys adnabod cyflyrau mewn genethod a menywod.

"Rydym yn cynnal adolygiad o’r galw am bob gwasanaeth niwroddatblygiadol i bob oed, a chapasiti’r gwasanaethau hynny. Bydd y canlyniadau'n cynnwys opsiynau ar gyfer datblygu a gwella'r gwasanaethau hyn, gan gynnwys y rhai ar gyfer awtistiaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.