Newyddion S4C

Digwyddiadau ym Manceinion i nodi pum mlynedd ers yr ymosodiad ar Arena'r ddinas

22/05/2022
Manceinion

Mae pobl Manceinion wedi bod yn cofio'r 22 o bobl fu farw yn ystod ymosodiad terfysgol ar Arena'r ddinas, bum mlynedd wedi'r digwyddiad.

Fe ffrwydrodd Salman Abedi ddyfais yng nghyntedd yr Arena ar ddiwedd cyngerdd y gantores Ariana Grande ar 22 Mai, 2017.

Cafodd dros 1,000 o bobl eu hanafu yn ystod y digwyddiad, gyda llawer o'r dioddefwyr yn bobl ifanc.

Fe gafwyd munud o dawelwch ei drefnu ddydd Sul, a gweddïau i'r rhai fu farw a'r dioddefwyr yng nghadeirlan y ddinas.

Darllenwch ragor yma.

Llun: Tomasz Kozlowski

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.