Newyddion S4C

Kneecap yn beirniadu Keir Starmer mewn perfformiad egnïol yn Glastonbury

Kneecap (PA)

Mae’r band Kneecap wedi perfformio yng Ngŵyl Glastonbury ddydd Sadwrn o flaen torf o ddegau o filoedd, er bod nifer o wleidyddion wedi dweud na ddylent gael gwneud hynny. 

Deth galwadau i atal eu perfformiad ar ôl i un o aelodau Kneecap, Liam Óg Ó hAnnaidh, 27 oed, gael ei gyhuddo o chwifio baner oedd yn cefnogi’r sefydliad terfysgol gwaharddedig Hezbollah mewn gig ym mis Tachwedd y llynedd.

Mae'n gwadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Mewn perfformiad egnïol ar lwyfan West Holts o flaen torf oedd yn chwifio baneri Palesteina, dywedodd Mo Chara, llysenw Liam Óg Ó hAnnaid, ei fod yn "ddyn rhydd."

Yn ystod y perfformiad fe arweinodd y band y dorf wrth weiddi slogan oedd yn feirniadol o'r prif weinidog Syr Keir Starmer, gan alw hefyd am 'Balesteina Rydd'.

Image
Kneecap (PA)

Yn gynharach ddydd Sadwrn, cadarnhaodd y BBC na fyddent yn darlledu’r set yn fyw, ond y byddai'r perfformiad yn debygol o fod ar gael ar alw yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Fel y partner darlledu, mae’r BBC yn dod â sylw cerddorol helaeth i gynulleidfaoedd o Glastonbury, gydag artistiaid wedi’u trefnu gan drefnwyr yr ŵyl.

“Er nad yw’r BBC yn gwahardd artistiaid, mae ein cynlluniau’n sicrhau bod ein rhaglennu’n bodloni ein canllawiau golygyddol.

“Nid ydym bob amser yn darlledu pob act yn fyw o’r prif lwyfannau ac yn ceisio gwneud fersiwn ar alw o berfformiad Kneecap ar gael ar ein llwyfannau digidol, ochr yn ochr â mwy na 90 o setiau eraill.”

Mae'n debyg y bydd y BBC yn ystyried cynnwys y perfformiad cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Dywedodd y band ar Instagram cyn y perfformiad: “Mae adain propaganda’r gyfundrefn newydd gysylltu â ni….

“Fe fyddan nhw’n rhoi ein set o Glastonbury heddiw ar yr iPlayer yn ddiweddarach heno er mwyn i chi ei gwylio.”

Image

Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer na fyddai’n “briodol” i’r triawd sy'n canu yn yr iaith Wyddeleg yn ogystal â Saesneg berfformio yn Glastonbury o achos y cyhuddiad troseddol yn erbyn un o'i haelodau. 

Dywedodd arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch hefyd na ddylai’r BBC ddangos perfformiad Kneecap o Glastonbury. 

Bu'n rhaid cau mynediad i lwyfan West Holts cyn perfformiad Kneecap gan fod cymaint o bobl yn ceisio cael mynediad yno i'w gwylio'n perfformio.

Lluniau gan PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.