Newyddion S4C

Rygbi: Dau gais ac anaf i Tomos Williams ym muddugoliaeth y Llewod

Tomos Williams

Fe gafodd mewnwr Caerloyw, Tomos Williams, ddau gais i'r Llewod yn eu buddugoliaeth o 7-54 yn erbyn Western Force yn Awstralia ddydd Sadwrn - ond fe ddioddefodd anaf hefyd, fydd yn bryder i'r garfan ar gyfer gweddill y daith.

Sgoriodd y Llewod wyth cais i gyd yn eu gêm brawf gyntaf o'r daith yn Perth, gydag Elliot Daley hefyd yn hawlio dau gais i'r crysau cochion.

Roedd y Llewod yn llwyr reoli erbyn yr ail hanner.

Wrth drafod anaf Williams gyda Sky Sport ar ddiwedd y gêm, dywedodd prif hyfforddwr y Llewod, Andy Farrell: "Llinyn y gar tynn. Dydych chi ddim yn gwybod sut bethau yw rhain. Fe wnawn ei asesu."

Wrth drafod y fuddugoliaeth gyfforddus, dywedodd: "Roedd yn brawf da iawn i ni yn yr hanner cyntaf hwnnw, rwy'n yn falch sut y gwnaethon ni dawelu ar yr egwyl a chadw ein pen drwy gydol yr ail hanner.

"Mae naw cap newydd yno. Nid yw cwpl o fechgyn wedi chwarae, byddan nhw'n cael chwarae yn y ddwy gêm nesaf.

"Mae'n braf cael ceisiau ar y bwrdd ac ychydig o berfformiadau unigol da. Mae hynny i gyd yn dda ar gyfer y dyfodol, ac mae'n rhaid i ni barhau i wthio ein gilydd."

Fe fydd gêm nesaf y Llewod yn erbyn y Queensland Reds yn Brisbane ar 2 Gorffennaf.

Llun: Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.