Eluned Morgan yn honni bod Reform UK yn hyrwyddo 'ffantasïau' gwleidyddol
Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi honni bod Nigel Farage yn apelio ar “ffantasïau” pobl Cymru ynglŷn â dyfodol y wlad.
Daw ei sylwadau mewn araith i gynhadledd Llafur Cymru ddydd Sadwrn wedi i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer rybuddio bod yna "gynllwyn cudd" rhwng y Torïaid, Reform UK a Phlaid Cymru ar gyfer etholiadau Senedd Cymru'r flwyddyn nesaf.
Mewn araith yn Llandudno, dywedodd y Farwnes Morgan mai'r “bygythiad go iawn” oedd Nigel Farage a’i blaid Reform UK.
“Ar hyd a lled y wlad mae pobl yn gofyn cwestiynau mawr, difrifol ynglŷn â pha fath o ddyfodol y maen nhw eisiau i Gymru.
“Mae’n amser sefyll i fyny.
“Tra bod Nigel Farage ym Mhort Talbot yn hyrwyddo ffantasïau drwy sôn am anfon wyrion pobl i lawr i’r pyllau glo ac ailagor y ffwrneisi chwyth, rydym yn delio â'r realiti a adawyd ar ôl – y creithiau sydd yna wedi degawdau o esgeulustod y Torïaid.
“Dydyn ni ddim yn rhomanteiddio’r gorffennol. Rydym yn ei lanhau.”
Mewn ymateb i'w haraith, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Roedd araith Eluned Morgan yn slogan i gyd, a dim sylwedd. Ei chyhoeddiad mawr oedd y dylai Cymru 'baratoi ar gyfer y chwyldro AI' - llinell mor amwys a datgysylltiedig o realiti, y gallai fod wedi'i hysgrifennu gan ChatGPT.
"Siaradodd am wneud y GIG yn 'addas ar gyfer yr 21ain ganrif', ond mae Llafur wedi bod yn ei redeg am yr unfed ganrif ar hugain gyfan hyd yn hyn, pob un o'r 25 mlynedd ohoni.
"Os nad yw'n addas erbyn hyn, pwy sydd ar fai? Mae angen syniadau ffres, atebion ymarferol, ac uchelgais wirioneddol ar Gymru - nid addewidion gwag plaid sydd wedi rhedeg allan o stêm."
'Anhrefn a rhaniadau'
Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer wrth y gynhadledd y byddai clymblaid rhwng y Torïaid, Reform UK a Phlaid Cymru yn "dychwelyd i’r anhrefn a’r rhaniadau a welsom yn ystod y degawd diwethaf", gan amharu ar y cynnydd y mae ei blaid wedi ei wneud mewn grym.
"Boed hynny gyda Reform, neu gyda Plaid sy'n benderfynol o dorri Cymru i ffwrdd o weddill y wlad – heb unrhyw gynllun i roi Cymru yn ôl at ei gilydd," meddai yn y gynhadledd ddydd Sadwrn.
Mae Reform UK eisoes wedi dweud ei bod yn blaenoriaethu Cymru gydag etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026.
Fe wnaeth Llafur berfformio yn wael yn etholiadau lleol Lloegr eleni, gyda phlaid Nigel Farage yn ennill nifer o seddi cyngor sir.
Nid yw arweinydd y Blaid Geidwadol, Kemi Badenoch, wedi diystyru gwneud cytundebau gyda Phlaid Cymru na Reform yn etholiad nesaf y Senedd.
Mae Plaid Cymru wedi ymateb i sylwadau Syr Keir gan ddweud ei fod yn "pedlera ffuglen".
Daw'r gynhadledd wedi i Syr Keir gael ei orfodi i wneud tro pedol sylweddol ar newidiadau i fudd-daliadau, a hynny er mwyn tawelu'r gwrthwynebiad i'r newidiadau ymysg Aelodau Seneddol ei blaid ei hun.
'Adnewyddu Cymru'
Wrth iddo nodi blwyddyn fel Prif Weindiog y DU yr wythnos nesaf, mae Syr Keir wedi ceisio tynnu sylw at y camau y mae ei lywodraeth wedi'u cymryd ers hynny y mae'n ei ddweud sy'n dod â manteision uniongyrchol i Gymru.
Maen nhw'n cynnwys cytundebau masnach rhyngwladol sy'n rhoi hwb i gwmnïau fel wisgi Penderyn, a deddfwriaeth i gryfhau hawliau gweithwyr, meddai.
Fe wnaeth Syr Keir hefyd ganmol manteision cael llywodraethau Llafur yn gyfochrog yn San Steffan a Chymru.
"Dyma'r blaid sydd wedi cael cyflogau i godi'n gyflymach yn y 10 mis cyntaf nag a lwyddodd y Torïaid mewn 10 mlynedd," meddai.
"Dyma'r llywodraeth sy'n gostwng biliau ac yn creu swyddi. Dyma'r mudiad a fydd yn ailadeiladu Prydain ac yn adnewyddu Cymru."
Dywedodd bod buddiannau pobl sy'n gweithio "wrth galon" y Blaid Lafur ac y bydd "bob amser felly.
"Neu, mae’r opsiwn arall. Y risg o droi’r holl gynnydd yn ôl rydyn ni’n dechrau ei wneud. Dychwelyd i’r anhrefn a’r rhaniad a welwyd yn ystod y degawd ddiwethaf.".
"Cynllwyn cudd (backroom stitch-up) yn yr ystafell gefn rhwng y Torïaid, Reform a Plaid Cymru. Ac unwaith eto, teuluoedd dosbarth gweithiol fydd yn gorfod talu'r pris.
"Boed hynny gyda’r Blaid Reform, neu gyda Phlaid Cymru sy'n benderfynol o dorri Cymru i ffwrdd o weddill y wlad – heb gynllun i roi Cymru yn ôl at ei gilydd."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: “Anobeithiol. Gall pobl weld drwyddo. Mae gweinidogion Llafur wedi siarad yn agored am ffurfio eu clymblaid o anhrefn eu hunain dim ond i atal Reform UK rhag cyflawni’r newid gwirioneddol sydd ei angen ar Gymru.
"Ar ôl 26 mlynedd o ddirywiad dan Lafur, mae ein cymunedau mewn sefyllfa waeth, mae ein gwasanaethau’n methu, ac mae teuluoedd yn talu’r pris. Nid oes angen mwy o sloganau blinedig na chytundebau ystafell gefn ar Gymru."
Llun: PA