
Galw am adolygiad annibynnol i drafferthion Cadeirlan Bangor
Galw am adolygiad annibynnol i drafferthion Cadeirlan Bangor
Wedi i'r Archesgob Cymru Andy John gyhoeddi ei fod yn ymddeol ddydd Gwener, bellach mae 'na alwadau am adolygiad annibynnol i'r hyn aeth o le yng Nghadeirlan Bangor.
Daeth yr ymddeoliad yn dilyn cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan wedi i ddau adroddiad feirniadu ymddygiad o fewn yr Eglwys Gadeiriol.
Roedd crynodebau’r adroddiadau yn cyfeirio at "ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur," yfed alcohol yn ormodol, a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu. Nid yw’r adroddiadau llawn wedi’u cyhoeddi.
Fe ffurfiwyd grŵp gweithredu cyn i'r archesgob gyhoeddi ei ymddeoliad, a bwrdd goruchwylio gan yr Eglwys i wneud gwelliannau ac i weithredu’r argymhellion.
'Adolygiad annibynnol'
Ddydd Sadwrn, fe wnaeth Siân Gwenllian, AS, Aelod Plaid Cymru dros Arfon yn y Senedd alw am adolygiad annibynnol i'r hyn sydd wedi digwydd.
Dywedodd: “Rwy’n bryderus iawn am y sefyllfa. Mae nifer o etholwyr wedi dod ataf gyda phryderon ynghylch adroddiadau yn y wasg, honiadau, a dogfennau mewnol sydd hefyd wedi cyrraedd y cyfryngau.
“O ganlyniad, rwyf wedi ysgrifennu at Archesgob Cymru a chynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru i ofyn am eglurder ar y mater ac i’w hannog i gomisiynu adolygiad annibynnol.
“Ar hyn o bryd, nid wyf yn teimlo’n hyderus y bydd unrhyw adolygiad yn wirioneddol annibynnol ar yr Eglwys, a dyna sy’n fy mhryderu fwyaf.
“Mae angen tryloywder llawn arnom. Dim ond wedyn y gall pobl fod yn hyderus y bydd pethau’n newid, y bydd argymhellion yn cael eu gweithredu, ac y gellir adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn enw da’r gadeirlan.”

Ar ôl i rai alw am ymddiswyddiad yr Archesgob, cynigiodd ei "ymddiheuriad diffuant i unrhyw aelodau o gymuned y gadeirlan sydd wedi’u brifo neu sy’n teimlo fy mod wedi eu siomi".
Dywed yr Eglwys yng Nghymru eu bod wedi cynnig cyfarfod gyda Siân Gwenllian i drafod ei phryderon.
Pan holodd Newyddion S4C yr Eglwys yn flaenorol am adroddiadau o ddigwyddiadau difrifol y dywedwyd eu bod wedi’u cyflwyno i’r Comisiwn Elusennau, datgelwyd bod chwe adroddiad o’r fath wedi’u cyflwyno mewn ychydig dros flwyddyn mewn perthynas ag elusennau sy’n gysylltiedig ag esgobaeth a Chadeirlan Bangor.
Mae’r Comisiwn bellach wedi cadarnhau ei fod wedi lansio achos cydymffurfio rheoleiddiol i'r elusennau.
Mae dau offeiriad yn Eglwys Gadeiriol Bangor hefyd wedi galw’n gyhoeddus am ymchwiliad annibynnol i’r Gadeirlan a’r Esgobaeth.
Daeth Andy John yn Esgob Bangor yn 2008 ac fe’i hetholwyd yn Archesgob Cymru ym mis Rhagfyr 2021.