
Y cerddor a’r actor Dyfrig Evans wedi marw’n 43 oed
Mae’r cerddor a’r actor Dyfrig Evans wedi marw yn dilyn cyfnod o waeledd.
Roedd yn 43 oed.
Yn enedigol o Benygroes yng Ngwynedd, fe fu'n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle cyn cychwyn ar yrfa lwyddiannus ym myd y celfyddydau.
Yn actor dawnus, daeth i amlygrwydd fel aelod o gast gwreiddiol cyfres ‘Rownd a Rownd’ ac fe ymddangosodd mewn nifer o ddramâu teledu yn cynnwys ‘Talcen Caled’, ‘Emyn Roc a Rôl’, ‘Tipyn o Stad’, ‘ Gwlad yr Astra Gwyn’, ‘Darren Drws Nesa’ ‘Hidden’ a ‘Hinterland’.
Yn 2006 fe chwaraeodd ran y prif gymeriad yn nrama ddogfen ‘Llythyrau Ellis Williams’ ar S4C, gan gofnodi hanes Cymro gafodd ei alltudio o Wynedd i weithio fel gaucho ym Mhatagonia.
Canu a cherddoriaeth
Roedd canu a cherddoriaeth yn rhan fawr o fywyd Dyfrig Evans yn ogystal ag actio, ac roedd cyfansoddi yn ei waed.
Yn ystod ei yrfa gerddorol fe gyfansoddodd nifer fawr o ganeuon poblogaidd mewn bandiau ac fel artist unigol.
Yn ystod 90au cynnar y ganrif ddiwethaf, fe ddechreuodd ganu ym mand Paladr gyda’i frawd Iwan Evans, cyn i’r band ddatblygu dan enw ‘Topper’ yn ddiweddarach.

Roedd yn gitarydd a phrif ganwr gyda’r grŵp, ac fe ddaeth i gael ei adnabod gan lawer fel Dyfrig Topper o achos llwyddiant y band.
Roedd ‘Topper’ yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd y sîn roc am nifer o flynyddoedd, gan gyhoeddi sawl albwm ag EP oedd yn cynnwys caneuon cofiadwy fel ‘Hapus’, ‘Cwpan mewn dŵr’ a ‘Newid er mwyn newid’.
Odd hi byth yn boring yn i gwmni o!! Actor a cherddor ofnadwy o dalentog hefyd. Dwi’n gyrru llwyth o gariad a chryfder i holl deulu a ffrindia Dyfrig♥️ https://t.co/SgTHBOF1Wa
— Mari Lovgreen (@MariLovgreen) May 26, 2022
Aeth y band ar daith gyda Catatonia, cyn dirwyn i ben yn 2001. Cafodd casgliad o ganeuon ‘Topper’ ei ryddhau dan enw ‘Y Goreuon o’r Gwaethaf’ ar label Rasal yn 2005.
Artist unigol
Yn 2006 fe wnaeth Dyfrig Evans ryddhau albwm fel artist unigol o’r enw ‘Idiom’, oedd yn cynnwys caneuon ‘Gwas y diafol’ a ‘Werth y byd’.
Fe gymerodd ran yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2019, gan ddod yn drydydd gyda’r gân ‘LOL’.

Yn 2020 fe ryddhaodd sengl ‘Mae gen i angel’ ar label JigCal.
Disgrifiodd y gân fel un “fydd yn gobeithio yn diddanu clustiau plant, hŵligans, gwŷr a gwragedd, neiniau a theidiau a phawb arall sydd isho byw yn gytûn.”
Mor drist clywed y newyddion am Dyfrig.. wedi ei gwrdd am y tro cyntaf tra’n yr ysgol - ac wedi gweithio hefo’n gilydd ar Tipyn o Stad ac Emyn Roc a Rol.. halen y ddaear.. cofion cynhesaf at ei frodyr, ei deulu a’i ffrindiau agos x https://t.co/kIeCbhhtw3
— Jennifer Jones (@JenVaughanJones) May 26, 2022
Dywedodd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: “Roedd talent Dyfrig yn rhychwantu cymeriadau annwyl ar gyfer ein cynnwys plant a chymeriadau mwy brith ar gyfer cyfresi fel Talcen Caled. Hynny heb sôn am ei allu a’i gyfraniad di-gwestiwn fel cerddor. Bydd colled ar ei ôl ac mae ein cydymdeimlad gyda’i deulu i a’i ffrindiau.”
Dyfs annwyl, llawn cariad, llawn direidi. Diolch am y caneuon ac am dy dalent dibendraw. Wedi dy golli di yn llawer iawn rhy fuan. Meddwl am y teulu. 💔 https://t.co/SM64K4qOor
— Elin Fflur (@elinfflur) May 26, 2022
Wrth gofio am gyfraniad Dyfrig i'r sîn gerddoriaeth yng Nghymru, fe ddywedodd cyflwynydd BBC Radio Cymru, Rhys Mwyn wrth Newyddion S4C fod y gân 'Newid er mwyn newid' gan Topper, yn "un or caneuon pop gorau yn y Gymraeg erioed."
"Roedd o'n feistr ar y grefft o gyfansoddi caneuon bachog pop, ac yn sicr roedd ganddo bresenoldeb ar y llwyfan roc a rol.
"Roedd o'n berson hollol hollol focused ar lwyfan, ac fe fydd yn cael ei gofio fel un o berfformwyr mwyaf cyflawn ei gyfnod."