Gweddillion aderyn wedi ei 'arteithio' wedi eu darganfod yn Llanrwst

Mae pobl leol mewn tref yn Sir Conwy wedi disgrifio eu braw ar ôl weddillion aderyn oedd wedi ei arteithio gael eu darganfod.
Cafodd corff yr aderyn, oedd o bosib yn frân, ei ddarganfod ger y cae pêl-droed lleol yn Llanrwst.
Yn ôl disgrifiadau pobl y dref a lluniau ar gyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth rhywun ddiberfeddu'r aderyn a cheisio rhoi ei weddillion ar dân.
Y gred yw bod yr aderyn wedi marw ar ddydd Sadwrn, 14 Mai.
Mae RSPCA Cymru wedi mynegi pryder am y digwyddiad ac yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda nhw yn syth.
Darllenwch y stori'n llawn yma.