Newyddion S4C

Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys: Galw am 'lefel diogel' o staffio

12/05/2022
S4C

Mae pryderon yn parhau i godi ymysg nyrsys dros brinder staff wrth iddynt baratoi i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys ddydd Iau. 

Dywedodd y Coleg Brenhinol Nyrsio (RCN) ei fod am ddechrau "sgwrs ryngwladol" dros gyfraniad nyrsys, gan annog pobl i rannu negeseuon yn gwerthfawrogi'r hyn maent yn ei gwneud. 

Ond er gwaethaf y dathliadau, mae'r RCN wedi rhybuddio bod angen newidiadau o fewn y sector er mwyn gwella problemau staffio. 

Yn ôl ffigyrau YouGov, mae 70% o bobl yn teimlo nad oes digon o nyrsys i ddarparu gofal diogel. 

Yng Nghymru, mae ffigyrau'r RCN yn dangos bod y gwasanaeth iechyd yn brin o dros 1,700 o nyrsys a bod prinder staff yn cynyddu cyfraddau marwolaeth. 

Mae'r RCN bellach wedi galw am newidiadau cyfreithiol i gadarnhau bod lefelau diogel o staffio yn cael eu cyrraedd. 

Maent hefyd wedi galw am ragor o fuddsoddiad er mwyn datrys problemau prinder staff. 

"Rydym yn atgoffa gwleidyddion heddiw bod cynllun buddsoddiad gweithlu yn gam pwysig i gadw ein mannau iechyd a gofal yn ddiogel," meddai Pat Cullen, Ysgrifennydd Cyffredin a Phrif Weithredwr yr RCN. 

"Mae rhaid iddynt gymryd cyfrifoldeb am y sefyllfa bresennol a gwneud ymdrech i newid pethau." 

'Datblygu a hyfforddi nyrsys'

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cefnogi neges yr RCN gan alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i sicrhau lefelau staffio diogel. 

"Mae'n amser i Lafur delio gyda'r problemau yn y GIG a stopio torri'r recordiau am y rhesymau anghywir," meddai Russell George, Gweinidog Cysgodol dros Iechyd y Ceidwadwyr Cymraeg. 

"Un ffordd o wneud hyn yw sicrhau lefelau diogel o staff nyrsio cyn gynted â phosib."

Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dros 400 o nyrsys rhyngwladol yn ymuno a'r gwasanaethau iechyd yng Nghymru eleni. 

Mae'r staff ychwanegol yn rhan o'r ymgyrch newydd 'Yma am Fywyd', sydd wedi'i lansio gan Brif Swyddogion Nyrsio'r DU ddydd Iau. 

Nod y cynllun yw denu mwy o weithwyr i'r proffesiwn.  Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka, fod "cadw, denu, recriwtio, datblygu a hyfforddi" mwy o nyrsys yn rhan allweddol o sicrhau lefelau staffio digonol i'r GIG. 

Llun: Coleg Nyrsio Brenhinol

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Mae recriwtio dramor yn un o amrywiaeth o gamau rydym yn eu cymryd i gefnogi'r gweithlu iechyd a gofal ledled Cymru wrth i ni ddelio ag effaith barhaus y pandemig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.