Araith y Frenhines: 'Lleddfu costau byw' yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU
Araith y Frenhines: 'Lleddfu costau byw' yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU
Mae'r Tywysog Charles wedi amlinellu cynlluniau Llywodraeth y DU yn ystod agoriad swyddogol y Senedd ddydd Mawrth.
Roedd y Tywysog yn cynrychioli ei fam, Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth, oedd wedi penderfynu peidio â mynychu'r agoriad yn sgil anawsterau symud "achlysurol".
Fe gafodd yr araith ei hysgrifennu gan y llywodraeth i amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Yn ôl yr araith, blaenoriaethau'r llywodraeth fydd "lleddfu costau byw" a chefnogi Banc Lloegr i ddychwelyd lefelau chwyddiant i'w targed.
Dywedodd y Tywysog Charles hefyd y bydd y llywodraeth yn "cefnogi'r heddlu i wneud ein strydoedd yn fwy diogel".
A bydd mwy o rymoedd i'r heddlu atal protestiadau.
Bydd hefyd yn "amddiffyn democratiaeth a rhyddid ar draws y byd, gan gynnwys parhau i gefnogi pobl Wcráin".
Roedd yr araith hefyd yn cyfeirio at bolisi'r llywodraeth tuag at ffoaduriaid, gan gynnwys cymryd camau i rwystro pobl rhag croesi'r sianel a "thaclo'r gangiau troseddol sy'n elwa o alluogi hyn".
Daw'r araith ddiwrnod wedi i Syr Keir Starmer ddweud y byddai'n ymddiswyddo petai'n cael dirwy gan Heddlu Durham yn dilyn honiadau ei fod wedi torri rheolau Covid-19 fis Ebrill y llynedd.