Newyddion S4C

Heddlu'r Gogledd yn annog 'parch' yn dilyn defnydd 'amhriodol' o jet skis

10/05/2022

Heddlu'r Gogledd yn annog 'parch' yn dilyn defnydd 'amhriodol' o jet skis

Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar bobl i ddangos "parch" tuag at yr arfordir yn dilyn adroddiadau o ddefnydd "amhriodol" o jet skis ger Ynys Môn.

Dywedodd Tîm Troseddau Cefn Gwlad y llu bod yr ardal o gwmpas Ynys Seiriol oddi ar arfordir Môn, yn "gynefin bywyd gwyllt sensitif".

Dywedodd RSPB Cymru fod "defnydd anghyfrifol" o jet skis yn gallu arwain at "ganlyniadau difrifol" i greaduriaid y môr.

Mae deunydd fideo a gafodd ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Llun yn dangos nifer o jet skis yn cael eu gyrru oddi ar arfordir yr ynys.

Dywedodd Ros Green, a ffilmiodd y cynnwys, fod o leiaf un aderyn wedi marw yn y dŵr wedi'r digwyddiad.

Daw sylwadau'r heddlu a'r RSPB yn dilyn pryderon yn ystod yr haf y llynedd fod defnydd amhriodol o 'jet skis' yn gallu niweidio adar môr.

Mae'r awdurdodau'n annog pobl i ddilyn y cod morol a pharchu bywyd gwyllt.

Mae'r RSPB yn annog unrhyw un sydd yn gweld ymddygiad peryglus i gysylltu â'r swyddog troseddau bywyd gwyllt lleol ar 101.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.