Pryderon fod ‘jet skis’ yn niweidio adar môr
Mae pryderon yn y gogledd yn dilyn adroddiadau o ‘jet skis’ yn gyrru dros adar môr.
Mae Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu’r Gogledd yn dweud eu bod wedi derbyn adroddiadau diweddar o ardaloedd oddi ar arfordir Ynys Môn, gan gynnwys Ynys Seiriol ac Ynys Lawd.
Mae’r ynysoedd hyn yn gartrefi i adar môr fel gwylogod, llurs a phalod.
Dywed y llu bod un adroddiad wedi ei wneud gan y cyflwynydd teledu Iolo Williams, a welodd bum jet ski yn mynd trwy gasgliad o adar môr dros y penwythnos.
Mae’r llu hefyd wedi derbyn adroddiadau o chwe jet ski arall yn dychryn bywyd gwyllt ar Afon Conwy.
Dywedodd y Rhingyll Dewi Evans, rheolwr y Tîm Troseddau Cefn Gwlad: “Dwi wedi fy siomi o glywed adroddiadau fod jet skis yn amharu ar adar môr, gan gynnwys ardaloedd fel Ynys Seiriol.
“Tydi hyn ddim yn ffordd gynhaliol i reoli’n adnoddau naturiol. Petai rhywun yn anafu’r adar môr ar bwrpas byddent yn troseddu.
“Os gwelwch yn dda byddwch yn wyliadwrus o amgylch ein arfordir. Petai rhywun yn cael eu dal yn gwneud hyn, a fod y tystiolaeth yn ddigonol, rydym yn barod i erlyn."
Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth, ac yn annog unrhyw un i gysylltu gyda’r Tîm Troseddau Cefn Gwlad.
Llun: Monsyn