Newyddion S4C

Teyrnged i lanc 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Y Drenewydd

09/05/2022
Owen Bennett

Mae teulu dyn 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd y B4568 rhwng Aberhafesp a'r Drenewydd ym Mhowys wedi rhoi teyrnged iddo. 

Bu farw Owen Paul Bennett ddydd Llun, 2 Mai, wedi'r gwrthdrawiad mewn car Ford Fiesta am 4.50 y bore.

Dywedodd ei deulu ei fod yn “fab, brawd, ŵyr, nai, cefnder a ffrind cariadus”.

Roedd yn gyn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Caersws ac Ysgol Uwchradd Llanidloes, ac roedd ar fin cwblhau prentisiaeth mewn gwaith coed.

Mae ei deulu wedi diolch i'r gwasanaethau brys am eu hymdrechion, ac yn gofyn am breifatrwydd yn eu galar. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.