Teyrngedau i’r actor Dennis Waterman sydd wedi marw'n 74 oed
08/05/2022Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r actor Dennis Waterman sydd wedi marw yn 74 oed.
Roedd yn enwog am chwarae cymeriadau mewn sioeau teledu fel Minder, The Sweeney a New Tricks.
Mewn datganiad dywedodd ei deulu: “Rydym yn hynod drist i gyhoeddi bod ein hannwyl Dennis wedi marw yn dawel mewn ysbyty yn Sbaen.
"Bu farw brynhawn dydd Sul gyda’i wraig Pam wrth ei ymyl."
Daeth yn adnabyddus yn y 1970au wrth actio yng nghyfres The Sweeney gyda John Thaw.
Cafodd rhagor o lwyddiant wrth actio cymeriad Terry McCann yn Minder gyda George Cole fel Arthur Daley.
Yn fwy diweddar chwaraeodd ran ditectif yn y rhaglen New Tricks rhwng 2003 a 2015.
Darllenwch fwy yma.