Her unigryw wedi codi dros £3,000 i gefnogi disgyblion yng Nghaerdydd
Her unigryw wedi codi dros £3,000 i gefnogi disgyblion yng Nghaerdydd
Mae disgyblion mewn ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd wedi codi dros £3,000 tuag at gyfleusterau newydd.
Ar ôl dwy flynedd anodd oherwydd y pandemig penderfynodd disgyblion Ysgol Gymraeg Pwll Coch wneud her unigryw i helpu i godi'r arian.
Fel rhan o' r her roedd yn rhaid i'r disgyblion eistedd ar bob un o’r 33,280 o seddi yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd 380 o ddisgyblion yr ysgol yn cymryd rhan yn yr her.
“Ni'n trio eistedd ar pob sedd yn y stadiwm i gyd, i godi arian i greu ystafell lles yn yr ysgol,” eglurai Izzy ym mlwyddyn chwech.
Llwyddodd her EisteddLe godi dros £3,000 fydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu hybiau fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion fyfyrio, ymlacio a mynegi eu hemosiynau.
Un sy’n edrych ymlaen at gael ystafell les yn yr ysgol yw Cai ym mlwyddyn pump.
Dywedodd: “Ni moyn creu ystafell am sut i chi'n teimlo. Os i chi ddim yn teimlo'n iawn, wedyn ma' 'na ystafell i gael y stress mas.”
Mae modd cyfrannu yma.