Arweinydd Cyngor Caerdydd: ‘Bydd Keir Starmer yn ymddiswyddo’ os yw wedi torri rheolau Covid

Arweinydd Cyngor Caerdydd: ‘Bydd Keir Starmer yn ymddiswyddo’ os yw wedi torri rheolau Covid
Bydd arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer yn ymddiswyddo pe bai ymchwiliad yn darganfod ei fod wedi torri rheolau Covid-19, yn ôl arweinydd Cyngor Caerdydd.
Mae Syr Keir yn wynebu honiadau ei fod wedi torri rheolau Covid-19 ar ôl cael ei ffilmio yn yfed cwrw yn swyddfa Aelod Seneddol Durham, Mary Foy, yn ystod yr ymgyrch ar gyfer is-etholiad Hartlepool yn Ebrill 2021.
Dywedodd Huw Thomas, arweinydd Llafur yng Nghaerdydd wrth Newyddion S4C: “I fi mae'n gwestiwn o hygrededd a dyna un o'r pethau ma' Keir Starmer wedi pwysleisio yn ei arweinyddiaeth.
“Ma' 'na un ymchwiliad wedi bod yn barod a dim byd wedi ei ddarganfod.
“Dwi'n hyderus fod gan Keir yr hygrededd yna i wneud y penderfyniad os ydy e'n cael ei ddedfrydu yna bydd e yn ymddiswyddo.”
Yn wreiddiol, fe ddywedodd Heddlu Durham nad oeddynt yn credu fod Syr Keir wedi torri'r rheolau.
Ond mae swyddogion bellach wedi dechrau ymchwiliad yn dilyn adroddiadau fod 30 pobl yn bresennol ar y pryd.
“Dyna i fi y gwahaniaeth rhwng Keir Starmer a Boris Johnson, ma' Boris Johnson yn parhau i geisio celwyddo ei ffordd allan o'i broblemau fe.
“Beth ni di gweld dros y bum mlynedd diwethaf a mwy ydy dirywiad mewn safonau cyhoeddus yn y wlad yma - ma' Boris Johnson yn personoli y dirywiad yna.
“Dyna pam dwi'n hyderus os ydy Keir wedi neud rywbeth yn anghywir y bydde fe gyda'r hygrededd i ymddiswyddo.
“Dwi ddim yn credu ei fod e wedi gwneud rhywbeth yn anghywir, gadewch i ni weld beth ma'r ymchwiliad yn ei ddangos.”