Rhagor o gwestiynau i Syr Keir Starmer dros honiadau o dorri rheolau Covid
Mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer yn wynebu rhagor o gwestiynau dros honiadau ei fod wedi torri rheolau Covid-19.
Cafodd ei ffilmio yn yfed cwrw yn swyddfa Aelod Seneddol Durham, Mary Foy, yn ystod yr ymgyrch ar gyfer is-etholiad Hartlepool yn Ebrill 2021.
Mae wedi gwadu'r honiad yn flaenorol, gan ddweud ei fod yn cael pryd o fwyd yn ystod saib o'i waith.
Yn wreiddiol, fe ddywedodd Heddlu Durham nad oeddynt yn credu fod Syr Keir wedi torri'r rheolau.
Ond mae swyddogion bellach wedi dechrau ymchwiliad yn dilyn adroddiadau fod 30 pobl yn bresennol ar y pryd.
Mae’r Mail on Sunday wedi cyhoeddi nodyn mewnol yn dangos amseroedd pan fyddai’r “cinio” yn dod i ben.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur ei fod wedi bwyta “rhwng galwadau gwaith” a byddai’n “anghywir i dybio” fod gweithgareddau yn ystod yr ymweliad wedi digwydd ar yr amseroedd oedd wedi eu trefnu’n wreiddiol.
Darllenwch fwy yma.