Newyddion S4C

Ffordd yr A55 ar gau am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' ger Conwy

08/05/2022
Heddlu.
Heddlu.

Roedd ffordd yr A55 ar gau am gyfnod yn dilyn gwrthdrawiad 'difrifol' ger Conwy yn gynnar fore dydd Sul.

Roedd dargyfeiriad mewn lle oedd yn golygu taith o 43 milltir yn ychwanegol i deithwyr ar yr A5 a'r A470 drwy Fetws-y-Coed.

Roedd y ffordd wedi ei chau i gyfeiriad y dwyrain rhwng cyffordd Dwygyfylchi a Chonwy ers 02.00.

Mae'r ffordd bellach ar agor i'r ddau gyfeiriad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.