Diddymu fframwaith rheoli Covid-19 mewn ysgolion
Mae’r rheolau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach yn ysgolion Cymru o ddydd Llun.
Mae hyn yn golygu y bydd yr un rheolau yn bresennol mewn busnesau ac ysgolion.
Mae’r newidiadau hefyd yn berthnasol i brifysgolion a cholegau.
Ers mis Medi 2021, mae fframwaith wedi eu rhoi ar waith mewn ysgolion i ddewis mesurau lleol addas i atal coronafeirws rhag lledaenu mewn ysgolion.
Bellach, ni fydd yr angen i'r fframwaith hwn gael ei defnyddio gan ysgolion.
Yn ôl y llywodraeth mae'r cam hwn yn rhan o'u cynllun pontio Covid-19 wrth i'r feirws symud o fod yn bandemig i fod yn endemig.
Bydd cyngor yn parhau i ysgolion a cholegau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y mesurau ar waith yn parhau i fod yn rhai addas.
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd y cyfyngiadau coronafeirws sydd ar ôl yn cael eu dileu o 9 Mai ymlaen.
Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal yn parhau yng Nghymru.
Bydd ysgolion arbennig yn parhau i ddilyn cyngor yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n wynebu risg glinigol uwch.
Dywedodd y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles: “Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r sector i ofalu bod yr amgylchedd dysgu yn ddiogel rhag Covid a bod cyfleusterau dysgu ar gael wyneb yn wyneb ar ein campysau.
“Erbyn hyn rydyn ni mewn sefyllfa sefydlog o ran Covid, ac mae’r risgiau o ran iechyd cyhoeddus o fewn addysg uwch a phellach wedi lleihau’n sylweddol. Dydy parhau â mesurau iechyd cyhoeddus ychwanegol ddim yn ymateb cymesur bellach ac rydyn ni wedi gofyn i sefydliadau ddiddymu’n ffurfiol eu fframweithiau rheoli haint o heddiw ymlaen.”