Newyddion S4C

Wrecsam v Notts County

Wrecsam yn ceisio cadw eu gobeithion o ennill y Gynghrair Genedlaethol yn fyw

NS4C 08/05/2022

Bydd CPD Wrecsam yn brwydro i gadw eu gobeithion o ennill y Gynghrair Genedlaethol yn fyw wrth iddynt wynebu Stockport ddydd Sul. 

Dim ond triphwynt sydd yn gwahanu'r ddau dîm ar frig y tabl wrth iddynt gystadlu er mwyn ennill dyrchafiad awtomatig i Adran Dau. 

Doedd dim llawer o gefnogwyr yn disgwyl i'r gystadleuaeth fod mor agos wrth gyrraedd gemau olaf y tymor. 

Erbyn diwedd mis Mai roedd Stockport 11 pwynt ar y blaen ar frig y tabl gan adael nifer o gefnogwyr Wrecsam i dderbyn y bydd rhaid mynd i'r gemau ail-gyfle er mwyn cyrraedd Adran Dau.

Ond mae Stockport wedi ei gweld hi'n anodd dros yr wythnosau diwethaf, gan golli tair o'u pum gêm ddiwethaf. 

Mae hyn wedi galluogi Wrecsam i gau'r bwlch rhwng y ddau dîm gan gynnig gobaith o osgoi'r ansicrwydd o'r gemau ail-gyfle. 

Ond mae gan Stockport y fantais o hyd o flaen y gêm ddydd Sul gan eu bod wedi chwarae un gêm yn llai na Wrecsam hyd yn hyn. 

Hyd yn oed os ydy Wrecsam yn trechu'r ymwelwyr ac ennill eu gêm olaf o'r tymor wythnos nesaf, mae dal angen iddynt ddibynnu ar dimau eraill i guro Stockport er mwyn cael unrhyw gyfle o ennill y gynghrair. 

Bydd colli yn erbyn Stockport yn cadarnhau'r ymwelwyr fel pencampwyr, gan wthio Wrecsam i'r gemau ail-gyfle. 

Bydd dynion Phil Parkinson yn hyderus o aros yn y ras ar gyfer y gynghrair am o leiaf wythnos ychwanegol yn dilyn cyfnod o ganlyniadau anhygoel. 

Dyw Wrecsam heb golli mewn 19 gêm ac wedi ennill pedair o'u pum diwethaf. 

Maent hefyd wedi trechu Stockport yn ddiweddar, gan ennill 2-0 ar y Cae Ras yn rownd gynderfynol Tlws yr FA ar ddechrau mis Ebrill. 

Mae disgwyl i'r Cae Ras fod yn llawn ar gyfer y gêm dyngedfennol ddydd Sul, gyda'r gic gyntaf am 12:30.

Bydd S4C yn darlledu y gêm rownd derfynol FA Trophy Buildbase yn fyw rhwng Wrecsam a Bromley yn Wembley ar 22 Mai. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.