Marwolaeth Jack Lis: Dau'n pledio'n euog o fod yng ngofal ci peryglus

Mae dau o bobl wedi pledio'n euog i fod yng ngofal ci peryglus oedd yn gyfrifol am ladd bachgen 10 oed ym mis Tachwedd y llynedd.
Bu farw Jack Lis ar ôl i'r ci ymosod arno wrth iddo chwarae mewn tŷ cyfaill iddo ym Mhentwyn ger Penyrheol yn Sir Caerffili.
Plediodd Amy Salter, 28, a Brandon Hayden, 19 i fod yng ngofal ci peryglus oedd allan o reolaeth, gan achosi anafiadau arweiniodd at farwolaeth.
Plediodd Hayden yn euog i bum cyhuddiad arall o fod yng ngofal ci peryglus rhwng 4-7 Tachwedd y llynedd.
Dywedodd y barnwr yn y gwrandawiad y byddai'r ddau'n wynebu cyfnodau o garchar am y troseddau.
Darllenwch ragor yma.