Newyddion S4C

Banc Lloegr yn codi cyfraddau llog i'w lefel uchaf ers 2009

The Guardian 05/05/2022
Banc Lloegr

Mae Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog i 1% er mwyn ceisio dod i'r afael â lefelau chwyddiant. 

Dyma fydd y trydydd tro eleni i gyfraddau llog gael eu codi, gyda chyfraddau yn cynyddu o 0.75% i 1% - y lefel uchaf ers 2009.

Daw'r newid wrth i'r banc geisio rheoli lefelau chwyddiant sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at yr argyfwng costau byw presennol. 

Mae chwyddiant wedi cyrraedd 7% eleni - ei lefel uchad ers 1992 - gydag arbenigwyr yn rhagweld y gall gynyddu i 10%. 

Rhybuddiodd y banc y gallai cyfraddau gynyddu eto yn y misoedd i ddod, yn dibynnu ar yr hyn oedd am ddigwydd i'r economi.

Yn ôl economegwyr, mae cyfraddau llog yn rheoli'r cynnydd mewn prisiau byw trwy wneud benthyg arian yn fwy drud gan olygu bod pobl yn gwario llai o arian yn y pen draw. 

Darllenwch ragor yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.