Etholiadau Lleol: Diwrnod olaf o ymgyrchu i'r pleidiau
Mae'r ymgyrchu yn etholiadau lleol Cymru yn dod i ben ddydd Mercher cyn i'r blychau pleidleisio agor fore dydd Iau.
Mae disgwyl i arweinwyr y prif bleidiau adleisio prif bolisïau eu pleidiau wrth iddynt annog etholwyr i fwrw'u pleidlais am eu cynrychiolwyr lleol.
Yn ogystal ag ymgeiswyr ar ran pleidiau gwleidyddol, mae nifer fawr o gynrychiolwyr annibynnol hefyd yn sefyll ar gyfer 22 o gynghorau sir Cymru.
Mae 1,234 sedd mewn 762 o wardiau cynghorau lleol yn y fantol i'r pleidiau, gyda rhai seddi'n cynnwys mwy nag un ward.
Fe fydd y blychau pleidleisio ar agor rhwng 07:00 a 22:00 ddydd Iau i'r rhai hynny sydd heb fwrw eu pleidlais drwy'r post yn barod.
Ni fydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif tan ddydd Gwener, ac fe fydd y darlun llawn yn dod yn eglur i'r pleidiau, ymgyrchwyr a phleidleiswyr erbyn nos Wener.
Eleni, fe fydd gan bawb sydd dros 16 oed ac sy'n gymwys i bleidleisio yr hawl i wneud hynny.
Ar ddiwrnod olaf yr ymgyrchu, mae disgwyl i'r Ceidwadwyr Cymreig ddefnyddio dadl yn y Senedd i feirniadu'r blaid Lafur gan ddweud fod ansawdd bywyd trigolion wedi dirywio yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.
Ond yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae'r blaid Lafur wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig am yr argyfwng costau byw gan amlinellu'r camau y maen nhw'n eu cymryd i leddfu'r baich ariannol ar aelwydydd.
Mae Plaid Cymru wedi canolbwyntio ar gostau byw ac argyfwng tai'r wlad, gyda'r bwriad o annog mwy o gartrefi ynni-effeithlon newydd.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw gan bwysleisio pwysigrwydd insiwleiddio cartrefi i arbed arian.
Mae fwy o fanylion ar bolisïau'r prif bleidiau fydd yn sefyll yn yr etholiad ar gael yma.