Newyddion S4C

Covid-19: 'Tebygol' y bydd rhai pobl a gollodd anwyliaid yn herio Llywodraeth Cymru'n gyfreithiol

Covid-19: 'Tebygol' y bydd rhai pobl a gollodd anwyliaid yn herio Llywodraeth Cymru'n gyfreithiol

Newyddion S4C 29/04/2022

Mae’n debygol y bydd pobl gollodd anwyliaid i Covid-19 yn ystyried mynd â Llywodraeth Cymru i gyfraith, yn ôl cyfreithiwr sy’n cynrychioli 350 o deuluoedd oedd yn ymateb i ddyfarniad yn yr Uchel Lys.

Ddydd Mercher, daeth dau farnwr i’r casgliad bod polisïau i anfon cleifion yn Lloegr o ysbytai i gartrefi gofal heb eu profi ar ddechrau’r pandemig yn anghyfreithlon.

Yn Lloegr roedd pob claf ysbyty yn cael ei brofi am Covid cyn cael eu rhyddhau o 15 Ebrill, 2020.  Yng Nghymru, cafodd y polisi ddim ei newid tan bythefnos yn ddiweddarach.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd yn ystyried dyfarniad yr Uchel Lys a “allai fod â goblygiadau i ni yng Nghymru”.

Ond mewn cyfweliad â Newyddion S4C mae’r cyfreithiwr Craig Court, sy’n cynrychioli grŵp ‘Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru’ yn dweud: “Os oedd penderfyniadau yn Lloegr yn anghyfreithlon, mae’n debygol i benderfyniadau yng Nghymru fod yn anghyfreithlon.

“Ac os oedd yr oedi mewn gwneud newidiadau yn Lloegr yn anghyfreithlon, mae’n dilyn bod oedi pellach o bythefnos yng Nghymru yn anghyfreithlon.

“Y manylion sy’n gwneud achos cyfreithiol yn anodd.  Ry’n ni’n dal i ystyried hynny.  Rwy’n credu y bydd rhagor o achosion cyfreithiol o ganlyniad i’r penderfyniad.  Ar hyn o bryd mae’n aneglur sut fydd hynny’n edrych."

'Rhaid i ni ddysgu'

Mary Wimbury yw Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru.  

Mae’n dweud i gartrefi gofal unigol gymryd camau i geisio atal lledaeniad Covid-19 cyn i Lywodraeth Cymru weithredu.

"Cyn i bolisi Llywodraeth Cymru newid, roedd llawer o gartrefi gofal wedi dweud na, dydw i ddim yn derbyn pobl o'r ysbyty heb brawf achos rydyn ni'n poeni am Covid.  Rydyn ni'n poeni am y bobl sy'n byw yn y cartrefi gofal," meddai.

“Rhaid i ni ddysgu o bethau sydd wedi digwydd ar ddechrau'r pandemig.  Rhaid i ni ddiogelu pobl hen, pobl fregus sy'n byw mewn cartrefi gofal mwy nac ar ddechrau'r pandemig".

Image
Margaret Williams
Bu farw mam Margaret Williams ar ôl dal Covid-19 yng Ngwanwyn 2020.

'Cyfaddef lle oedd y ffaeleddau'

Collodd Margaret Williams ei mam i Covid yng Ngwanwyn 2020.  

Roedd Peggy Patrick yn byw gyda dementia mewn cartref gofal.  Bu farw ar Ebrill 11 yn 95 mlwydd oed.

Yn ôl Mrs Williams, doedd hi ddim yn gwybod bod gan ei mam Covid tan iddi weld ei thystysgrif farwolaeth.  

Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn rhoi gobaith iddi y bydd hi, a theuluoedd eraill, yn cael cyfiawnder.

“Bu farw’r holl bobl yma.  Dyw hyn ddim ynglŷn â mam a fi.  Mae’r grwpiau rydw i’n perthyn iddyn nhw - mae pobl wedi colli aelodau o’u teuluoedd; gwŷr, merched, meibion, mamau a thadau," meddai.

Mae’n dweud bod y dyfarniad yn cryfhau’r galwadau am ymchwiliad Covid annibynnol penodol i Gymru.

“Does bosib y dylai’r Llywodraeth sylweddoli bod angen atebion arnom ni.  Mae angen iddyn nhw gyfaddef lle oedd y ffaeleddau.

“Rydw i’n credu i’r amgylchiadau yng Nghymru fod yn wahanol, ac mae angen edrych ar y rheiny - ac mae angen i bwy bynnag sydd mewn grym i sicrhau bod hynny yn digwydd."

'Dyfarniad pwysig'

Droeon mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad Covid annibynnol i Gymru, gan ddweud y bydd yna graffu ar benderfyniadau wnaed yng Nghaerdydd fel rhan o ymchwiliad ehangach ar draws y Deyrnas Unedig.

Tra’n ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys mewn cyfweliad â rhaglen Politics Wales BBC Cymru, fe ddywedodd Mark Drakeford: “Mi wna’i astudio beth oedd gan yr Uchel Lys i’w ddweud.  

"Mae’n edrych fel dyfarniad pwysig allai fod â goblygiadau i ni yng Nghymru felly mi wna’i sicrhau ei fod yn cael ei astudio’n ofalus.  

"Ond heb i mi fod yn rhan o’r achos ar unrhyw adeg, ni fyddai’n briodol i mi ddod at unrhyw gasgliadau yn seiliedig ar yr hyn i mi ddarllen mewn adroddiadau papur newydd."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.